Does neb yn dewis dioddef o iechyd meddwl gwael.
Gallwn eich helpu i ddeall eich hawliau a chael pobl i wrando arnoch.
Advocacy Support Cymru (ASC): Diweddariad Dapariaeth Gwansanaeth
Mae'r Ddarpariaeth Gwasanaeth ar gyfer Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA), gan gynnwys Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (TDRhCRh neu DoLs) EGMA yn newid.
O 1 Mehefin 2024, mae Cymorth Eiriolaeth Cymru yn darparu'r gwasanaethau hyn yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe.
Mae Advocacy Support Cymru (ASC) yn elusen gofrestredig sy'n arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y sawl sy'n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.
Gall ein heiriolwyr eich cefnogi ar faterion mewn perthynas â thriniaeth, meddyginiaeth, gwasanaethau, hawliau ac opsiynau a byddant yn eich galluogi i gael dweud eich dweud am eich triniaeth a'ch gofal.
Ni fydd eiriolwyr yn rhoi cyngor, yn cynnig cwnsela, yn darparu cyfryngiad neu'n bod yn gyfaill. Ni fyddant yn beirniadu dymuniadau'r sawl maen nhw'n eu cefnogi neu'n ceisio eich perswadio i ddilyn ffordd benodol o weithredu.
Mae eiriolwyr yn darparu gwybodaeth i bobl i'w helpu i ddeall pa opsiynau sydd ar gael, ond nid ydynt yn penderfynu neu'n cynghori pa un i ddewis.
Trwy gyflwyno eiriolaeth broffesiynol gyda sicrwydd ansawdd, mae ASC yn darparu 4 maes clir o gefnogaeth eiriolaeth gan gynnwys eiriolaeth arbenigo.
Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)
Meysydd a gwmpesir:
BIP Aneurin Bevan, BIP Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Meysydd a gwmpesir:
BIP Bae Abertawe, BIP Hywel Dda, BIP Aneurin Bevan, BIP Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Eiriolaeth
Gymunedol
Meysydd a gwmpesir:
BIP Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Eiriolaeth
Arbenigol
Meysydd a gwmpesir:
Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth
BIP Aneurin Bevan, BIP Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Eiriolaeth Dementia ar ôl Dychwelyd Adref o’r Ysbyty
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Er y byddem yn hoffi i'n heiriolaeth fod ar gael i gymaint o bobl â phosib, mae gan ein gwasanaethau gyfyngiadau penodol sy'n ein hatal rhag gweithio gyda phawb sydd eisiau neu angen eiriolwr.
Ffoniwch ni ar 029 2054 0444 a byddwn yn hapus i ddweud wrthych a ydych yn gymwys ai beidio.
Oriau agor: 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. 9am-4:30pm dydd Gwener. AR GAU Dydd Sul.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk