Astudiaethau Achos / IMCA Cleient B

IMCA Cleient B

Roedd B yn glaf yn yr ysbyty a oedd wedi cael ei derbyn i'r ward ar ôl llewygu tra roedd allan yn y gymuned. Cafodd B ddiagnosis o anaf ar yr ymennydd a phennwyd ei fod yn bodloni'r 'prawf asid' am awdurdodaeth DOLs tra roedd yn yr ysbyty. Cyfarwyddyd IMCA i weithredu fel Cynrychiolydd Person Perthnasol (RPR) B. Daeth yn amlwg bod y gweithwyr meddygol proffesiynol yn teimlo y byddai B yn buddio o gyfnod o adfer mewn ysbyty arall. Daeth B yn ofidus iawn ac nid oedd eisiau i'r trosglwyddiad hwn ddigwydd, yn hytrach fe fynegodd ddymuniad i ddychwelyd adref.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Bu B gydnabod bod angen iddo fod yn yr ysbyty ar y cychwyn ond roedd yn teimlo ei bod wedi gwella a bod dim angen iddo fod yn yr ysbyty bellach.

Gofynnodd RPR yr IMCA am adolygiad Rhan 8 (MCA 2005) o awdurdodaeth y DOLs a gwblhawyd. Roedd cydnabyddiaeth gan dîm y DOLs bod B wedi ymgyfarwyddo â'r amser, y lle a'r bobl, ond roedd yr aseswr budd pennaf o'r farn bod diffyg galluedd gan B yn ymwneud â bod yn yr ysbyty oherwydd ei 'ymddygiad rhithiol', felly gwnaethpwyd cais am awdurdodaeth DOLs arall.

Mynychodd yr IMCA gyfarfod budd pennaf ar gyfer ble, er mwyn cynrychioli dymuniadau a safbwyntiau B. Roedd yr MDT yn teimlo ei bod ym mudd pennaf B i'w drosglwyddo i Ysbyty Rockwood er mwyn iddo adfer. Pwysleisiodd yr IMCA yr amoda a nodwyd ar awdurdodaeth y DOLs, a oedd yn nodi y dylid cwblhau asesiad niwrseiciatreg. Roedd yr asesiad wedi cael ei gwblhau a daethpwyd i'r casgliad y byddai adferiad yn cael "ychydig o fudd yn unig". Er hyn, roedd yr ymgynghorydd a'r MDT yn teimlo bod yr asesiad hwn "heb ei brofi" ac felly dylid trosglwyddo B i Ysbyty Rockwood.

Yn ystod y cyfarfod budd pennaf, gofynnodd RPR yr IMCA bod cyngor cyfreithiol yn cael ei geisio gan yr ysbyty yn ymwneud â'r fframwaith cyfreithiol o ran symud B yn erbyn ei ddymuniadau i ysbyty arall. Cwblhawyd hwn gan yr ymgynghorydd, ac fe ddarparwyd ymateb gan y tîm cyfreithiol y gellid symud B heb ei gydsyniad am driniaeth feddygol os gellir pennu bod hyn er ei budd pennaf.

Yn sgil hyn, symudwyd B o'r ysbyty cyntaf i'r ail. Roedd hyn wedi cael ei gwblhau gydag ymglymiad gan staff yr ysbyty cychwynnol a thîm diogelwch. Gofynnodd RPR yr IMCA bod cais DOLs yn cael ei wneud fel mater o frys.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Rhoddwyd cais DOLs yn ei le yr wythnos ganlynol a derbyniodd RPR yr IMCA mandad newydd i gynrychioli B. Ymwelodd RPR yr IMCA â’r ail ysbyty ble dywedodd B wrth RPR yr IMCA ei bod wedi cael ei “dwyllo” i mewn i symud yno.
  • Roedd B yn gwrthwynebu bod yn glaf a mynegodd ddymuniad i ddychwelyd adref ar unwaith. Gwrthododd B ymrwymo â gweithwyr proffesiynol fel protest dros fod ar y ward.
  • Cododd RPR yr IMCA safbwyntiau B â’r tîm perthnasol yn yr ysbyty ac fe drefnwyd cyfarfod budd pennaf arall. Yn ystod y cyfarfod budd pennaf, esboniodd yr OT a’r tîm ffisiotherapi mai ychydig iawn o anghenion oedd gan B o ran byw o ddydd i ddydd a’i bod yn rheoli ei feddyginiaeth ei hun ar y ward. Roedd Seicolegydd y Ward wedi cael profiad gwahanol pan nad oedd B eisiau ymrwymo â hi. Er hyn, y teimlad oedd y ni fyddai adferiad o fudd i B ac y dylai gael ei ryddhau i fynd adref.
  • Mynegodd yr OT bryder bod B yn gwrthod caniatáu i unrhyw un fynd i mewn i’w dŷ os nad oedd yno. Ar ben hynny, roedd B wedi datblygu drwgdybiaeth fawr tuag at weithwyr proffesiynol yr ysbyty ac nid oedd eisiau mynd adref i’w dŷ gyda staff yr ysbyty yn unig.
  • Bu RPR yr IMCA gwrdd â B ac esbonio bod yr ysbyty eisiau ei ryddhau ond bod angen asesiad cartref. Cytunodd B i’r asesiad, ar yr amod bod RPR yr IMCA yn mynd gydag ef a’r OT er mwyn sicrhau ei bod ddim yn cael ei “dwyllo” eto.

Canlyniadau:

Yn dilyn yr asesiad cartref, penderfynwyd bod dim problemau ac y galli B ddychwelyd adref.

Trwy RPR yr IMCA, roedd B yn gallu cael mynediad at ei hawliau cyfreithiol o fewn y DOLs. Sicrhaodd RPR yr IMCA bod awdurdodaeth B yn cael ei adolygu pan fo angen, a sicrhau hefyd bod yr amodau o fewn y DOLs yn cael eu dilyn.

Bu RPR yr IMCA gynrychioli dymuniadau a safbwyntiau B mewn cyfarfodydd budd pennaf, gan sicrhau bod cyngor cyfreithiol yn cael ei geisio pan fo'n briodol.