Astudiaethau Achos / IMHA Cleient L

IMHA Cleient L

Cyfeiriwyd Cleient L gan weithiwr cymdeithasol. Roedd L yn ddyn ifanc wedi'i gadw dan adran 2 yn yr uned CAMHS. Roedd yr Uned yn bell o gartref L ac roedd y gweithiwr cymdeithasol yn pryderu am allu ei rieni i gynnig cefnogaeth iddo yn y lleoliad hwn. Cymhlethwyd y pryder hwn gan y ffaith bod L wedi llithro i mewn i gyflwr difynegiant a di-ddweud heb reswm amlwg. Roedd Atgyfeiriad Amddiffyn Plant wedi cael ei gyflwyno ac roedd yna botensial i roi trefniadau achos gofal ar waith.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Gwnaethpwyd datganiadau i'r IMHA a oedd yn nodi, oherwydd diffyg cyfathrebu cyfredol L, ni fyddai'n gallu ymrwymo mewn eiriolaeth.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Dywedodd yr IMHA wrth staff yr uned y byddai ymagwedd eiriolaeth heb gyfarwyddyd yn cael ei fabwysiadu a chyflwynwyd cais i’r IMHA gael mynediad at gofnodion i swyddfa’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
  • Ni chynigwyd unrhyw wybodaeth gan yr uned i’r IMHA o ran y cynnydd yng ngofal a thriniaeth L. Trwy ymglymiad â chyfeiriwr derbyniwyd wybodaeth am gyfarfod adolygu a gynhaliwyd yn yr uned.
  • Dywedwyd wrth yr IMHA gan swyddfa’r Ddeddf Iechyd Meddwl bod adran L wedi cael ei hailraddio i Adran 3.
  • Ni dderbyniwyd ymateb o ran cais yr IMHA i gael mynediad at gofnodion. Pan heriwyd hyn gan yr IMHA, darparwyd caniatâd priodol ar e-bost a chafwyd mynediad at gofnodion meddygol.
  • Nodwyd dyddiad y cyfarfod adolygu nesaf o’r cofnodion. Gofynnodd yr IMHA yn ffurfiol am wahoddiad i’r cyfarfod adolygu. Heriodd yr IMHA y gwrthodiad at fynediad a chafodd ganiatâd i ymweld.
  • Bu’r IMHA gwrdd â L a oedd yn gwbl anymatebol.
  • Mynychodd yr IMHA y cyfarfod adolygu ac fe drafodwyd y pryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant.

Canlyniadau:

Yn dilyn y cyfarfod adolygu, penderfynwyd y byddai'n well i L fod adref gyda chefnogaeth yn cael ei darparu gan ymarferwyr cymunedol CAMHS.

Rhyddhawyd L o'r uned. Nid oedd yn cyfathrebu erbyn yr amser hwn chwaith. Adroddodd y tîm gwaith cymdeithasol a staff yr uned i'r IMHA bod dim llawer o gydlynu na chyfathrebu rhwng y ddau dîm.

Roedd yr IMHA yn gallu cyfathrebu gyda'r tîm gwaith cymdeithasol yn dilyn y rhyddhau a hefyd er mwyn sicrhau bod y pryderon a gododd yn yr uned gyda pherthnasedd posib i'r achos amddiffyn plant yn cael eu pasio ymlaen i aelodau'r gynhadledd amddiffyn plant.