Eiriolaeth Gymunedol

Mae Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer pobl sydd:

  • Yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd - mae hyn fel arfer yn golygu bod eich gofal yn cael ei reoli trwy Dîm Iechyd Meddwl Cymuned (CMHT)
  • Yn gleifion mewnol sydd angen eiriolaeth ar gyfer materion nad sy'n ymwneud â meddyginiaeth neu driniaeth (e.e. tai, budd-daliadau).
  • Eisiau cael eu hailasesu gan CMHT am wasanaethau eilaidd mewn sefyllfaoedd ble mae eu hachos wedi cael ei gau o fewn y tair blynedd ddiwethaf.

Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal. Ar yr adeg hon, mae ASC yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer bobl o unrhyw oedran yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a BIP Bae Abertawe .

Cleifion mewnol seiciatrig sydd angen eiriolaeth yn ymwneud â thai/ trefniadau domestig cyhyd â bod y gwaith hwn ddim yn gwrthdaro â'r gwasanaeth IMHA statudol sy'n gweithredu yn yr ardal.

Oes gennych chi gwestiwn?
Cysylltwch â ni

Atgyfeiriadau

Ar gyfer atgyfeiriad Cymunedol (gan gynnwys hunan-atgyfeiriadau) ffoniwch 029 2054 0444 . Neu lawrlwythwch y ffurflen isod a’i dychwelyd atom ar beiriant ffacs ar 029 2073 5620 neu ar e-bost at info@ascymru.org.uk

Nodwch: Bydd gofyn i bobl sy'n atgyfeirio eu hunain am Eiriolaeth Gymunedol enwebu Gweithiwr Iechyd neu Ofal Cymdeithasol Proffesiynol maen nhw'n hapus i ni gysylltu â hwy fel rhan o'r broses Asesu'r Risg o Weithio ar eich pen eich hun.

Nid yw hyn yn rhagdybio y bydd unigolion yn peri risg i'n heiriolwyr ac nid yw'n effeithio ar gymhwysedd person ar gyfer y gwasanaeth.

Lawrlwythwch ein siart lif am rhagor o wybodaeth am hyn.

Community-Map

Straeon Cleifion

Rydym wedi cefnogi nifer o gleientiaid gydag Eiriolaeth Gymunedol. Dyma rhai astudiaethau achos sy'n rhoi blas ar y math o waith rydym yn ei wneud; mae'r rhain yn ddienw fel bo'n briodol.

img-megaphone

Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?

Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.

Newyddion Diweddaraf

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cais am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi ein gwasanaeth Anableddau ...

Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cais am arian i gefnogi ein Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth Gyda’n Gilydd wedi bod ...

Dilynwch Ni

Cysylltwch â Ni

Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)

Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT

Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD

Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk