Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Mae Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) ar gyfer:
- Pan mae Corff y GIG neu Awdurdod Lleol yn cynnig darparu, gwrthod neu stopio triniaeth feddygol ddifrifol
- Pan mae Corff y GIG neu Awdurdod Lleol yn cynnig trefnu neu newid llety
- Adolygiadau gofal
- Achosion o amddiffyn oedolion
Gall hefyd fod angen eiriolwr mewn achosion ble mae Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (neu DOLs) yn cael eu gweithredu. Rhaid cyfarwyddo EGMA:
- Pan mae Awdurdodaeth Ar Frys wedi cael ei wneud gyda chais am Awdurdodaeth Safonol
- Pan mae amddifadiad anawdurdodedig o ryddid yn cael ei wirio
- Pan mae bwlch wrth benodi Cynrychiolydd Perthynol Claf (CPC)
- Ble nad oes gan y person CPC 'proffesiynol' â thâl a bod y person perthnasol, eu cynrychiolydd neu'r corff goruchwylio'n teimlo bod angen cyfarwyddo EGMA i gefnogi rôl y CPC.
Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru'n darparu gwasanaeth EGMA ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal hwy. Mae ASC yn darparu'r gwasanaeth hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe & Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
I ddarganfod pwy sy’n darparu’r gwasanaeth EGMA ym Myrddau Iechyd eraill Cymru, ewch i’n tudalen Cysylltiadau Eraill.
Atgyfeiriadau - Gorllewin Cymru
Dim ond y penderfynwr perthnasol neu berson sydd â'r awdurdod i wneud yr atgyfeiriad ar eu rhan all wneud atgyfeiriadau EGMA gan gynnwys Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (TDRhCRh neu DoLS). Os ydych yn ansicr ynghylch cymhwysedd, cysylltwch â 029 2054 0444.
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen briodol drwy glicio ar y dolenni isod. Cwblhewch y ffurflen hon a'i dychwelyd atom trwy e-bost at info@ascymru.org.uk
Atgyfeiriadau - De Ddwyrain Cymru
Gellir gwneud atgyfeiriadau EGMA gan y person perthnasol sy'n gwneud penderfyniadau neu berson â'r awdurdod i wneud yr atgyfeiriad ar eu rhan yn unig. Os ydych yn ansicr am gymhwysedd, cysylltwch â 029 2054 0444.
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen trwy glicio ar y ddolen isod. Cwblhewch y ffurflen hon a'i dychwelyd atom trwy e-bost at info@ascymru.org.uk
Straeon Cleifion
Rydym wedi cefnogi llawer o gleientiaid gydag Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol. Dyma rai enghreifftiau yn unig, rydym wedi eu gwneud yn ddienw fel y bo'n briodol.
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk