Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)
Mae Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) ar gyfer:
- Pobl a gedwir dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu sy'n destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol neu Warcheidiaeth.
- Cleifion cyfyngedig a ryddheir yn amodol.
- Cleifion anffurfiol sy'n cael eu trin neu eu hasesu am gyflwr iechyd meddwl.
Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru'n darparu gwasanaeth EIMA ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal hwy. Ar yr adeg hon, mae ASC yn darparu'r gwasanaeth hwn ym Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, BIP Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
I ddarganfod pwy sy’n darparu’r gwasanaeth EIMA ym Myrddau Iechyd eraill Cymru, ewch i’n tudalen Cysylltiadau Eraill.
Bydd yr EIMA yn ceisio sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed trwy gefnogi'r claf
- I gael mynediad at wybodaeth, archwilio opsiynau ac ymrwymo mewn datblygu cynlluniau gofal
- I ddeall ac arfer eu hawliau cyfreithiol
- I wneud cwynion
- I gael mynediad at gofnodion perthnasol
Mae EIMA yn cefnogi eu cleientiaid yn unig ac nid ydynt yn gweithredu ar ran unrhyw berson arall, gan gynnwys Staff Iechyd, staff y GIG a gofalwyr. Ni fydd EIMA yn barnu neu'n gwneud penderfyniadau am Fuddion Pennaf eu cleientiaid. Nid yw eiriolwyr yn cadw gwybodaeth bersonol yn ôl o'u cleient nac yn rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol heb ganiatâd eu cleient.
Straeon Cleifion
Ers 2012, rydym wedi darparu IMHA i dros 5300 o gleientiaid. Dyma ychydig o straeon cleifion, rydym wedi eu gwneud yn ddienw fel y bo'n briodol.
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk