Talking Mats
Cynyddu'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol am y pethau pwysig.
Dull cyfathrebu arloesol, arobryn yw Talking Mats sy'n seiliedig ar ymchwil helaeth gan Therapyddion Iaith a Lleferydd a nhw hefyd oedd yn gyfrifol am ddylunio'r dull hwn. Mae'n fodel sy'n defnyddio symbolau lluniau unigryw a ddyluniwyd yn arbennig sy'n ddeniadol i bobl o bob oedran a phob gallu cyfathrebu. Caiff ei defnyddio gan ymarferwyr clinigol, gofalwyr a gweithwyr cefnogaeth mewn amrediad eang o leoliadau iechyd, gwaith cymdeithasol, preswyl ac addysg.
Dyddiad y cwrs nesaf: 17 Medi & 8 Hydref 2024
Beth yw Talking Mats?
Adnodd rhyngweithiol, nad sy'n dechnegol, yw Talking Mats sy'n defnyddio tair set o symbolau i gyfathrebu ar ffurf lluniau - pynciau, opsiynau a graddfa weledol - a man lle gellir eu harddangos. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut mae Talking Mats yn gweithio trwy glicio yma .
Pwy all fynychu cwrs Talking Mats?
Fel rheol, ymarferwyr clinigol, gofalwyr a gweithwyr cefnogaeth sy'n mynychu cwrs Talking Mats. Os yw'n cael ei defnyddio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn cael ei defnyddio fel adnodd i gyfathrebu ar ôl strôc, neu i oresgyn anawsterau cyfathrebu gyda phobl ag anabledd dysgu neu ddementia, mae symbolau cyfathrebu Talking Mats yn gallu bod yn hynod effeithiol.
Gan ddibynnu ar eich swydd, ar ôl mynychu cwrs Talking Mats, bydd gennych y sgiliau i wneud y canlynol:
- Helpu plant ac oedolion i fynegi eu teimladau neu ddewisiadau
- Darparu 'offeryn meddwl' i helpu pobl i archwilio gwahanol faterion a'u helpu i strwythuro a mynegi eu meddyliau
- Galluogi pobl ag anabledd dysgu i ddeall yr hyn a olygir wrth wneud penderfyniad ac yna i roi eu barn
- Gwneud hi'n haws i bobl â dementia i lynu at bwnc yn sgil fformat strwythuredig a chyson Talking Mats
- Cefnogi pobl gydag anawsterau cyfathrebu i fynegi barn negyddol yn ogystal â safbwyntiau cadarnhaol a lleihau'r tueddiad i gytuno â phopeth
- Helpu pobl i roi trefn fwy rhesymegol ar eu meddyliau trwy'r weithred o symud y symbolau o luniau.
Beth yw nodweddion y gweithdy?
- Cyflwyniadau a chyfarwyddyd gan hyfforddwr cofrestredig annibynnol Talking Mats. Ar hyn o bryd, ein hyfforddwr yw unig hyfforddwr cofrestredig Talking Mats sy'n seiliedig yng Nghymru.
- Cynhelir gweithdy Talking Mats ar ddau hanner diwrnod dros ddwy wythnos yn olynol. Mae hyn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr adlewyrchu a chwblhau gwaith ymarferol rhwng y sesiynau trwy greu cyflwyniad byr i'w anfon ar-lein i ddangos dealltwriaeth o'r model.
- Offeryn cyfathrebu arloesol, arobryn, nad sy'n dechnegol o bwrpas er mwyn peidio â chodi braw ar y plentyn neu oedolyn sy'n ei defnyddio.
- Sesiynau dysgu hynod ryngweithiol a chyfranogol.
- Trafodaethau grŵp i gefnogi ac atgyfnerthu'r dysgu.
- Ymarfer a datblygu sgiliau.
- Deunyddiau cyfranogwyr gan gynnwys cwrs-lyfr, set o symbolau, mat a bag. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs. I ddarllen mwy am gwrs Talking Mats.
I ddarllen mwy am gwrs Talking Mats, >>cliciwch yma
Lleoliad a Dyddiadau
Cynhelir cyrsiau am ddau hanner diwrnod dros bythefnos yn olynol yn ein hystafell hyfforddi yn Llaneirwg, Caerdydd. Y gost yw £175.00 y person. Mae ein canolfan hyfforddiant yn cynnwys yr holl gyfleusterau disgwyliedig gan gynnwys cegin i baratoi lluniaeth, ystafell ymlacio a nifer o fannau parcio.
Dyddiadau Cwrs Agored Nesaf:
2024
Dydd Mawrth 17 Medi & Dydd Mawrth 8 Hydref 10am - 1pm ar y ddau ddiwrnod
Dydd Mawrth 29 Hydref & Dydd Mawrth 19 Tachwedd 10am - 1pm ar y ddau ddiwrnod
Lleoliad: Swyddfeydd ASC yn Llaneirwg, Caerdydd
Cost: £190 y pen (yn cynnwys deunyddiau cwrs a lluniaeth). Ni ddaperir cinio ar y cwrs hwn.
Anfonwch e-bost at training@ascymru.org.uk i gael ragor o wybodaeth am y cwrs poblogaidd hwn ac i gael ffurflen archebu. Bydd eich lle yn cael ei gadarnhau unwaith y derbynnir taliad.
Am ragor o fanylion ar sut i fwcio lle neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444.
Gallwn gyflwyno'r cwrs i gwmnïau unigol ar gais (mae angen o leiaf 8 cyfranogwr pendant ond gellir cadarnhau enwau'r cyfranogwyr hyn 24 awr cyn dechrau'r cwrs). Os ydych eisiau bwcio mwy na dau le, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444 i drafod pa opsiynau sydd ar gael.
SYLWCH: Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk