Ansawdd cydnabyddedig ein gwasanaeth Eiriolaeth
Mae Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC) yn falch o fod yn ddeiliad y Marc Ansawdd Perfformiad Eiriolaeth (QPM Eiriolaeth) ers 2016.
Y QPM Eiriolaeth yw safon ansawdd meincnod y DU sy'n adnabod ansawdd wrth gyflwyno gwasanaethau eiriolaeth (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Mae'r broses pedwar cam yn drylwyr ac roedd rhaid i ASC ddarparu tystiolaeth i ddangos sut mae'n bodloni'r gwahanol safonau gofynnol.
Mae ennill y QPM Eiriolaeth:
- Yn galluogi i ASC, fel darparwr eiriolaeth annibynnol, ddangos a hyrwyddo ei ymrwymiad a'i gallu i ddarparu eiriolaeth o ansawdd uchel.
- Yn rhoi sicrwydd i gomisiynwyr gwasanaethau eiriolaeth bod ASC wedi cael ei asesu i sicrhau bod y sefydliad yn gadarn ac yn canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau o ansawdd.
- Mae proses y QPM hefyd yn helpu ASC i asesu, gwella a datblygu ei systemau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
Ail-aseswyd ASC yn ddiweddar ac mae'n falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn y QPM Eiriolaeth o 2022-2025.
Mae nifer o esiamplau o gwsmeriaid bodlon ar Care Opinion . Mae'r adolygiadau cadarnhaol hyn ynghyd â llwyddo ennill y QPM Eiriolaeth yn rhoi hyder a sicrwydd i gleientiaid a gweithwyr proffesiynol bod ASC, fel darparwr Eiriolaeth Annibynnol, yn darparu gwasanaeth eiriolaeth o ansawdd uchel.
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk