Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru - hanes cryno.
Ym mis Ebrill 2012, daeth Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC) yn gorfforedig fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant gydag Amcanion Elusennol. Fe gymerodd gyfrifoldeb dros holl gytundebau a gwasanaethau cyfredol ei ragflaenydd, Eiriolaeth Iechyd Meddwl De Cymru (SWMHA).
Dechreuodd Eiriolaeth Iechyd Meddwl De Cymru fel 'Gwasanaeth Eiriolaeth yr Ysbyty' yn 1995, gan ddarparu eiriolaeth iechyd meddwl mewnol yn ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn 1998, enillodd statws elusen a dod i gael ei wybod fel SWMHA.
Rhwng 1995 a 2008, ehangodd yr elusen ei weithrediadau i weithio mewn deng ardal awdurdod lleol; Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Bro Morgannwg, Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.
Yn 2003, sefydlodd SWMHA fodel eiriolaeth gymunedol yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili. Roedd y model yn gofyn am ddarpariaeth eiriolaeth i gleifion gyda chefnogaeth gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys cleifion yn cael eu cefnogi gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Allgymorth Pendant, Timau Argyfwng a Thimau Ymyrraeth Gymunedol.
O fis Tachwedd 2008, SWMHA oedd yn darparu'r gwasanaeth IMHA statudol ar draws tair ardal Bwrdd Iechyd yn Ne Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
Yn 2001, ehangwyd y gwasanaeth IMHA yng Nghymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Llwyddodd SWMHA ennill tendr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer y gwasanaeth hwn, yn ogystal â gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol newydd yn yr ardal hon. Roedd y sefydliad hefyd yn cydlynu cyflwyno'r gwasanaeth IMHA yng Nghaerdydd a'r Fro a Chwm Taf, yn dilyn proses tendro cystadleuol. Yng Nghaerdydd a'r Fro roedd hyn hefyd yn cynnwys gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol newydd.
Yn 2014, roedd ASC yn llwyddiannus wrth dendro am gytundeb IMCA consortiwm De Ddwyrain Cymru a chytundeb IMHA Aneurin Bevan. Roedd hyn yn cynnwys proses o groesawu eiriolwyr Mental Health Matters i mewn i'r sefydliad yn 2015 sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn ein grŵp staff a'r ardaloedd ble gallwn gyflwyno ein gwasanaethau. Yn 2018, llwyddodd ASC i ail-dendro ar gyfer contract IMCA fel rhan o broses dendro gystadleuol ac mae'n falch o barhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn o Ebrill 2019.
Ail-dendro ASC ar gyfer y gwasanaethau IMHA yn 2021-2022 a buom yn llwyddiannus wrth gadw pob contract IMHA presennol.
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk