Hawl Statudol i Eiriolaeth
Yn eich rôl broffesiynol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o hawl unigolyn i eiriolaeth ar gyfer y cleifion hynny sy'n gymwys o fewn eich gofal.
Mae'r adran isod yn rhoi manylion o'r hawliau hynny dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
IMCA
Mae Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn amddiffyniad ar gyfer pobl â diffyg galluedd i wneud rhai penderfyniadau pwysig. Dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005), mae hawl statudol i eiriolaeth i'w sawl â diffyg galluedd ac yn "ddigyfaill" trwy'r Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA).
Mae Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn rhoi'r hawl i bobl sydd ag amhariad, anaf neu anabledd sy'n golygu eu bod yn methu â gwneud penderfyniadau penodol eu hunain i dderbyn cefnogaeth a chynrychiolaeth annibynnol.
Os ydych chi'n gweithio o fewn cyngor lleol, neu os mai chi yw'r un sy'n gwneud penderfyniadau GIG, RHAID i chi gyfeirio person os nad oes ganddynt unrhyw deulu neu ffrindiau 'addas' y gellir ymgynghori â hwy a'u bod wedi cael eu hasesu fel bod â diffyg galluedd i wneud penderfyniad am y canlynol:
- Unrhyw gyflyrau meddygol difrifol
- Symud i ysbyty a fyddai am gyfnod hwy na 28 niwrnod
- Symud i gartref gofal am gyfnod hwy na 8 wythnos
- Eu diogelwch neu ofal sy'n debygol o arwain atynt yn colli eu rhyddid
Ar ben hynny, EFALLAI bydd angen i chi gyfeirio os yw'r person / claf â diffyg galluedd i wneud penderfyniad am naill ai:
- Adolygiad gofal (os nad oes ganddo/ganddi deulu a ffrindiau 'addas') neu
- Atgyfeiriad Amddiffyn Oedolion (os mae ef/hi yw'r dioddefwr neu'r tramgwyddwr honedig, os oes ganddynt deulu a ffrindiau neu beidio),/li>
Bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn gwirio a ydych chi, fel y sawl sy'n gwneud y penderfyniadau:
Mae IMCA yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr asesiad galluedd ei hun. Mae ganddynt yr hawl i gwrdd â'r cleient yn breifat a gallant ofyn gweld yr holl gofnodion iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal perthnasol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
- yn rhoi egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar waith;
- yn gweithredu ar ran budd pennaf yperson;
- yn dewis yr opsiwn lleiaf cyfyngedig ar gyfer y person.
Mae IMCA yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr asesiad galluedd ei hun. Mae ganddynt yr hawl i gwrdd â'r cleient yn breifat a gallant ofyn gweld yr holl gofnodion iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal perthnasol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
IMHA
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (diwygiad 2007) yn ei wneud yn ofynnol bod pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru a Lloegr yn darparu gwasanaeth IMHA ar gyfer pob claf cymwys sydd ei eisiau.
Yng Nghymru mae Mesur Iechyd Meddwl Cymru (2010) wedi ymestyn y gofyniad hwn ynghyd â'r sawl sy'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
Mae IMHA yn rôl statudol a ddiffinnir gan y darnau hyn o ddeddfwriaeth. Nid oes gan gleifion fynediad at IMHA os nad ydynt yn dewis gwneud. Mae IMHA yn gallu gweithredu mewn perthynas â meddyginiaeth, triniaeth a gofal ar gyfer salwch meddwl y claf. Mae gan IMHA yr hawl:
- I ymweld â chyfweld â'r claf yn breifat
- I ymweld, cyfweld a chael barn unrhyw un sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf
- I archwilio cofnodion perthnasol cleifion (mae amodau eraill yn berthnasol)
- Dylai cleifion gael mynediad at ffôn i gysylltu â'i IMHA.
Person Cyfrifol
RHAID i'r person cyfrifol, fel y diffinnir yn ôl y gyfraith, sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i bob Claf Cymhwysol o'u cymhwysedd am gefnogaeth IMHA. Yn ymarferol, bydd y ddyletswydd gyfreithiol hon yn cael ei weithredu gan weithwyr proffesiynol priodol e.e. staff Nyrsio sy'n gorfod:
- Rhoi gwybod i glaf ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Rhoi copi o'r wybodaeth i'r perthynas agosaf
- Cefnogi'r claf i gysylltu â'r gwasanaeth IMHA
- Cofnodi unrhyw gamau gweithredu mewn cofnodion meddygol
Os nad yw claf eisiau IMHA, mae dyletswydd i wirio eto.
IMHA a chleifion â diffyg galluedd i gyfarwyddo
Gall IMHA ddarparu eiriolaeth i bobl â diffyg galluedd i'w cyfarwyddo ac sy'n methu cyfathrebu eu dymuniadau, trwy ymagwedd heb gyfarwyddyd. Mae'r IMHA yn gallu cynrychioli hawliau a dymuniadau blaenorol y claf ond ni fydd yn gwneud argymhellion o ran eu Buddion Pennaf. Ymhlith y sbardunau ar gyfer y math hwn o atgyfeiriad mae:
- Claf ansefydlog, byth a hefyd yn ceisio gadael, gwrthod ymrwymo â thriniaeth
- Dim newid i'r claf dros gyfnod estynedig
- Cyflwr iechyd meddwl yn gwaethygu
- Newid yn y driniaeth
- Gwrthdaro neu anghytuno yn y teulu
Gall claf ddweud na i gefnogaeth IMHA ar unrhyw adeg. I gyfeirio, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm ar 029 2054 0444 .
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk