Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017 – 10fed Hydref 2017

Mae ASC yn falch o fod yn arddangos yn Abertawe heddiw i gefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017.

Eleni, mae’r ffocws ar ‘Wellness Workplace’, sef thema yr ydym i gyd yn cytuno, yn cynyddu’n gywir mewn ymwybyddiaeth a phwysigrwydd. Mae’r thema hon yn arbennig o berthnasol i ni yn ein gwaith – mae’n rhaid inni ofalu am ein hiechyd meddwl a’n lles gan nad ydym am i’n heffeithiolrwydd i’n cleientiaid sy’n dioddef anawsterau iechyd meddwl gael eu heffeithio.

 

Mae aelodau o’n tîm Llandarsi (Hannah Pike a Rhiannon Lord) yn cymryd rhan heddiw yn digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a gynhaliwyd yn Theatr y Grand Abertawe . Caiff y digwyddiad ei gefnogi’n dda gan sefydliadau eraill megis Prifysgol Abertawe, Samariaid a Hafal. Roedd yr awyrgylch yn wych y bore yma gyda digon o bobl yn edrych ar y stondinau arddangos a chipio cyfle i sgwrsio. Roedd hefyd yn gyfle i ni arddangos ein stondinau arddangos a’n deunyddiau marchnata newydd – gyda’n pinnau a’n peli straen yn mynd fel cacennau poeth!

 

Popiwch ymlaen os oes gennych yr amser, mae’r digwyddiad ar agor tan 3.30pm heddiw.

1abd70803ad6d71fd24bdfa8932a068a

Newyddion Diweddaraf

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cais am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi ein gwasanaeth Anableddau ...

Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cais am arian i gefnogi ein Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth Gyda’n Gilydd wedi bod ...

Dilynwch Ni

Cysylltwch â Ni

Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)

Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT

Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD

Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk