Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cymhwysol (ASIST)
Dysgwch y sgiliau i ymyrryd ac achub bywyd rhag hunanladdiad.
Mae ASIST yn weithdy rhyngweithiol deuddydd mewn cymorth cyntaf hunanladdiad. ASIST yw’r hyfforddiant sgiliau ymyrraeth hunanladdiad sy’n cael ei ddefnyddio a’i ymchwilio fwyaf yn y byd. Mae'n dysgu cyfranogwyr i adnabod pan fydd rhywun efallai'n meddwl am hunanladdiad a gweithio gyda nhw i greu cynllun a fydd yn cefnogi eu diogelwch uniongyrchol.
Er bod ASIST yn cael ei ddefnyddio'n eang gan ddarparwyr gofal iechyd, nid oes angen unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar gyfranogwyr i fynychu'r gweithdy - gall unrhyw un ddysgu a defnyddio model ASIST.
Dyddiad y cwrs nesaf: 10 & 11 Rhagfyr 2024 yn Llaneirwg, Caerdydd
Beth yw ASIST?
Gweithdy hyfforddiant rhyngweithiol, deuddydd o hyd yw ASIST sy'n paratoi cyfranogwyr i ddarparu ymyriadau cymorth cyntaf hunanladdiad.
Mae nifer o bobl sy'n ystyried hunanladdiad yn nodi eu gofid a'u bwriad, weithiau mewn modd cynnil iawn. Bydd hyfforddiant ASIST yn eich helpu i adnabod ac ymateb i'r gwahoddiadau hyn am gymorth, yn rhoi'r hyder i chi siarad am hunanladdiad os ydych yn poeni am ddiogelwch unigolyn ac yn eich darparu â'r sgiliau i helpu atal y risg ddybryd.
"Dau ddiwrnod pleserus iawn. Roedd hyfforddwyr yn wybodus iawn am y pwnc ac yn hawdd mynd atynt. 10/10."
Pwy all fynychu ASIST?
Mae nifer o weithwyr proffesiynol yn mynychu ASIST oherwydd bod meddu ar sgiliau i ymyrryd mewn hunanladdiad yn hanfodol ar gyfer eu gwaith. Nyrsys, athrawon, cynghorwyr, yr heddlu, ymatebwyr cyntaf - mae pawb 16 oed neu'n hŷn yn gallu dysgu sut i ddefnyddio model ASIST. Nid oes angen profiad blaenorol o iechyd meddwl neu atal hunanladdiad. Daw ein hyfforddwyr profiadol o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd.
Ar ôl mynychu cwrs llawn ASIST, byddwch yn meddu ar y sgiliau i allu gwneud y canlynol:
- Bod yn wyliadwrus i hunanladdiad a gallu adnabod pobl sy'n meddwl am hunanladdiad
- Deall y rhesymau y tu ôl i feddyliau am hunanladdiad a'r rhesymau dros fyw
- Asesu risg a diogelwch - datblygu cynllun i gynyddu diogelwch y person mewn perygl o hunanladdiad
- Adnabod gwahoddiadau am gymorth a gallu gweithredu arnynt
- Adnabod rhwystrau posib at gael cymorth
- Cynnig cefnogaeth - adnabod agweddau pwysig eraill o atal hunanladdiad gan gynnwys hyrwyddo bywyd a hunanofal
- Rhoi model ymyriadau hunanladdiad a ddysgir trwy ASIST ar waith yn effeithiol
- Cysylltu pobl ag adnoddau cymunedol a fydd yn gallu darparu cymorth pellach
"Hyfforddiant llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Wedi'i gyflwyno'n dda mewn modd proffesiynol. Yn bendant yn rhywbeth a fydd yn ddefnyddiol yn fy ngwaith ac yn fy mywyd o ddydd i ddydd."
Beth yw nodweddion y gweithdy?
- Cyflwyniadau a chyfarwyddyd gan ddau o hyfforddwyr cofrestredig LivingWorks
- Cynhelir ASIST dros ddau ddiwrnod yn olynol am gyfnod o 15 awr gan greu profiad dysgu pwerus gyda ffocws ar y nodweddion pwysicaf
- Model ymyriadau sydd wedi'i brofi'n wyddonol
- Cymhorthion dysgu clyweledol pwerus
- Trafodaethau grŵp i gefnogi ac atgyfnerthu'r dysgu. Penderfyniad y cyfranogwyr yw beth maen nhw eisiau ei rannu gyda'r cyfranogwyr eraill yn y sesiynau grŵp
- Ymarfer a datblygu sgiliau
- Cydbwysedd o heriau a diogelwch
- Deunyddiau cyfranogwyr gan gynnwys cwrs-lyfr 20 tudalen, cerdyn ar gyfer y waled a sticeri. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs.
Mae'r hyfforddiant hwn yn newid ac yn achub bywydau. Mae'r gweithdy wedi achosi i mi adlewyrchu ar fy ymagwedd yn fy mywyd proffesiynol a phersonol. Diolch."
Lleoliad a Dyddiadau
Mae cyrsiau agored yn cael eu cynnal yn ein hystafell hyfforddi yn Llaneirwg, Caerdydd. Wedi'i wasanaethu'n llawn a gyda chyfleusterau modern, mae'n lleoliad gwych ac mae'n cynnwys digon o le parcio am ddim.
Dyddiadau nesaf y cwrs agored:
Dydd Mawrth 10 a Dydd Mercher 11 Rhagfyr 9am - 5pm ar y ddau ddiwrnod
2025
Dydd Mawrth 18 a Dydd Mercher 19 Chwefror 9am - 5pm ar y ddau ddiwrnod
Dydd Mawrth 8 a Dydd Mercher 9 o Ebrill 9am - 5pm
Dydd Mawrth 17 a Dydd Mercher 18 Mehefin 9am - 5pm
Lleoliad: Swyddfeydd ASC yn Llaneirwg, Caerdydd, CF3 0LT.
I gael rhagor o fanylion am sut i archebu lle neu i gael gwybod mwy, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444
Cost: £185 y person (yn cynnwys cinio, lluniaeth a holl ddeunyddiau cwrs). Gostyngiad ar gael i elusennau.
Mae hyfforddiant trefniadaeth mewn cwmni ar gael ar gais. Cysylltwch â training@ascymru.org.uk gyda'ch gofynion.
"Roedd yr hyfforddiant hwn yn werthfawr i mi ac rwyf wedi ennill y sgiliau i fod yn hyderus wrth gynorthwyo rhywun sy'n ystyried hunanladdiad"
Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?
Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.
Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk