Mae Advocacy Support Cymru yn adnewyddu achrediad y Quality Performance Mark (QPM) ar gyfer 2026–2029
Yn dilyn ailasesiad, mae Advocacy Support Cymru (ASC) yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi derbyn y ‘Advocacy Quality Performance Mark’ (QPM), gan sicrhau achrediad am dair blynedd arall, o fis Hydref 2026 i fis Hydref 2029.
Mae ASC wedi dal achrediad QPM ers 2016. Mae’r wobr hon – sy’n cael ei chydnabod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – yn cadarnhau ymrwymiad parhaus ASC i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol o ansawdd uchel, yn unol â safonau’r QPM, y Cod Ymarfer Eirioli a’r Siarter Eirioli (Advocacy Charter).
Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad a phroffesiynoldeb staff ASC; mae eu hymrwymiad yn helpu i sicrhau bod lleisiau’r bobl rydym yn eu cefnogi yn cael eu clywed, a bod eu hawliau yn cael eu parchu.
Hoffem hefyd ddiolch i’r bobl sy’n rhoi eu hymddiriedaeth yn ASC ac yn gweithio gyda’n heiriolwyr. Mae eu profiadau, eu dymuniadau a’u teimladau yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Newyddion a Blogiau
Mae Advocacy Support Cymru yn adnewyddu achrediad y Quality Performance Mark (QPM) ar gyfer 2026–2029
Advocacy Support Cymru yn Cyrraedd Safon Ansawdd ‘Investing in Volunteers’ (IiV)
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk