safeTALK: Ymwybyddiaeth Hunanladdiad i Bawb

Gweithdy hanner diwrnod yw safeTALK sy'n ategu'r cwrs deuddydd Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig (ASIST) mwy cynhwysfawr a rhaglenni hyfforddiant ymyriadau hunanladdiad eraill. Nod safeTALK yw ymestyn estyniad cynorthwywyr ymwybyddiaeth hunanladdiad trwy sicrhau na fod meddyliau o hunanladdiad yn cael eu colli, eu hanwybyddu neu eu hosgoi.

Mae safeTALK wedi'i dylunio ar gyfer y sawl yn y gymuned sydd angen bod yn ymwybodol o hunanladdiad fel rhan o'u swyddi. Gall hefyd weithio ar gyfer sefydliadau sydd â hyfforddwyr cymwys ASIST eisoes. Mae'n canolbwyntio ar gysylltu person â meddyliau hunanladdol â'r sawl sydd wedi cwblhau ASIST ac sydd felly wedi datblygu'r sgiliau i wneud ymyriad hunanladdiad.

Dyddiad y cwrs nesaf: 19 Mawrth 2025 yn Llaneirwg, Caerdydd

ed3905992615f2d5df09040572bece77

Beth yw safeTALK?

Cwrs byr hanner diwrnod (3.5 awr) ar ymwybyddiaeth hunanladdiad yw safeTALK sydd â'r nod o fod y cam cyntaf allweddol o adnabod bod rhywun yn ystyried lladd ei hun. Gallwch roi rhybudd hunanladdiad ar waith trwy ddilyn y camau syml hyn - Dweud, Gofyn, Gwrando a Chadw'n Ddiogel.

Mae safeTALK yn hyfforddi cynorthwywyr ymwybyddiaeth hunanladdiad i wneud y canlynol:

    • Bod yn ymwybodol bod cyfleoedd i helpu person gyda meddyliau o hunanladdiad weithiau'n cael eu colli, eu hanwybyddu neu eu hosgoi.
    • Adnabod pan y gallai rhywun fod yn cael meddyliau o hunanladdiad.
    • Goresgyn rhwystrau i ennyn diddordeb person gyda meddyliau o hunanladdiad mewn trafodaeth uniongyrchol ac agored.
    • Rhoi'r model 4-cam ar waith i gysylltu person sy'n meddwl am hunanladdiad gyda rhywun sydd wedi derbyn hyfforddiant ar ymyriadau hunanladdiad (ee ASIST ).
e7b7d6735e5977cc6dd81788ea928066

Pwy all fynychu safetalk?

Gall unrhyw un fynychu cwrs safeTALK. Mae'n addas ar gyfer pobl oed 16+ o unrhyw gefndir sydd angen bod yn ymwybodol o hunanladdiad yn eu gwaith neu fywyd personol. Fel arfer, caiff ei dysgu gan un hyfforddwr i grwpiau o hyd at 30 cyfranogwr.

Awgrymir yn gryf bod sefydliad sy'n ystyried ymagwedd at atal hunanladdiad yn ystyried mabwysiadu ASIST a safeTALK gyda'i gilydd. Cwrs deuddydd cynhwysfawr yw ASIST lle mae cyfranogwyr yn dysgu'r sgiliau i ymgymryd ag ymyriad hunanladdiad. Nod safeTALK yw gweithredu fel rhwydwaith cefnogaeth ehangach i bobl fod yn ymwybodol o ymyriadau hunanladdiad ac i'r cynorthwywyr hynny gysylltu pobl â meddyliau hunanladdol â chefnogaeth pobl sydd wedi derbyn hyfforddiant ASIST.

Bydd angen i sefydliadau sydd â diddordeb mewn cwblhau cwrs safeTALK yn fewnol neu sy'n ystyried anfon staff ar gwrs agored gael digon o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant ASIST.

Beth yw nodweddion y gweithdy?

  • Wedi'i hwyluso gan o leiaf un hyfforddwr cymwys
  • Cwrs hanner diwrnod yw safeTALK sy'n ffitio i mewn yn hawdd gyda'r wythnos waith
  • Ymhlith y dulliau dysgu a ddefnyddir mae clipiau fideo, trafodaethau ac ymarferion
  • Herio ac archwilio ymagweddau a chredoau yn ymwneud â hunanladdiad
  • Ymarfer y model 4-cam a rhoi rhybudd hunanladdiad ar waith

"Roedd Matt a Chris yn wych; yn wybodus, yn hawdd mynd atynt ac yn broffesiynol. Rwyf wedi elwa'n fawr o'r hyfforddiant. Diolch!"

I ddarllen mwy am gwrs safeTALK >> cliciwch yma

Lleoliad a Dyddiadau

Cynhelir cyrsiau agored yn ein hystafell hyfforddi llawr cyntaf yn Llaneirwg, Caerdydd. Wedi'i wasanaethu'n llawn, yn hawdd ei gyrraedd o'r M4 C30 a'r A48, a chyda chyfleusterau modern, mae'n cynnwys digon o le parcio am ddim.

Dyddiadau nesaf y cwrs agored:

2025

Dydd Mercher 19 Mawrth 2024 10am - 1.30pm

Dydd Mercher 14 Mai 2024 10am - 1.30pm

Dydd Mercher 17 Medi 2024 10am - 1.30pm

Dydd Mercher 12 Tachwedd 2024 10am - 1.30pm

Lleoliad: Swyddfeydd ASC yn Llaneirwg, Caerdydd

Pris: £45 y person (yn cynnwys deunyddiau cwrs a lluniaeth). Ni ddarperir cinio ar y cwrs hwn.

Mae safeTALK yn arbennig o addas ar gyfer hyfforddiant mewn-sefydliad i grwpiau o hyd at 40 o gyfranogwyr. Cysylltwch â training@ascymru.org.uk i holi ac i drafod gofynion eich sefydliad yn fwy manwl.

Rhaid Cael o leiaf 10 cyfranogwr ar unrhyw gwrs safeTALK. Ni fydd ASC yn gallu cynnal cwrs agored neu fewnol heb isafswm nifer y cyfranogwyr.

Am rhagor o fanylion ar sut i fwcio lle neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444.

56422228927400e935161e6a7d5184eb
img-megaphone

Ddim yn siŵr pa wasanaeth sy'n iawn i chi?

Bydd ein siart lif Llwybr Atgyfeirio yn eich helpu.

Newyddion Diweddaraf

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cais am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi ein gwasanaeth Anableddau ...

Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cais am arian i gefnogi ein Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth Gyda’n Gilydd wedi bod ...

Dilynwch Ni

Cysylltwch â Ni

Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)

Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT

Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD

Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk