Blog: Cynhadledd Eiriolaeth Genedlaethol 2023 – Bod yn rhan o rywbeth arbennig, pŵer yr Eiriolwr
Dyma Rhiannydd Edwards (2il ar y chwith yn y llun grŵp), Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol yn Advocacy Support Cymru (ASC), Caerdydd yn sôn am ei phrofiadau yn y digwyddiad deuddydd
Daeth eiriolwyr o bob rhan o’r DU ynghyd yn ddiweddar yn y Gynhadledd Eiriolaeth Genedlaethol* yn Birmingham, a gynhaliwyd yn briodol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth. Clywodd y cynrychiolwyr gan arweinwyr yn y maes, cawsant gyfle i ddysgu ac i rannu arfer gorau. Hwn oedd fy ymweliad cyntaf ac ymunodd fy nghyd Eiriolwyr Carys a Huw o dîm ASC â mi. Roedd fy nisgwyliadau cyn mynychu'r Gynhadledd yn cynnwys cael cadarnhad o bwysigrwydd rôl Eiriolaeth a hyfforddiant pellach ond dysgais lawer mwy.
Esblygodd fy angerdd am eiriolaeth i ddechrau o swydd flaenorol fel Gweithiwr Cymorth a'r awydd i helpu pobl i gael llais. Roedd dylanwad cyfyngedig yn y rôl honno ac nid oeddwn yn ymwneud â gwneud penderfyniadau. Mae fy rôl bresennol fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA) yn rhoi’r cyfle hwnnw i mi.
Yn y Gynhadledd dysgais gan Eiriolwyr eraill am y ffordd roedden nhw’n gweithio a oedd yn caniatáu i mi fyfyrio ar fy arferion gwaith a’m hymarfer fy hun, gan fy herio a mynd â fi allan o fy mharth chysur. Roedd pwyslais ar 'fod yn ddewr' sef cael grym ac effaith ar benderfyniadau clinigol a'r dewrder i sefyll i fyny, gwybod pryd i sefyll i fyny a phryd i ymyrryd. 'Mae'n bwysig ymgyfarwyddo â sefyllfaoedd anghyfforddus' oedd yr ymadrodd y cyfeiriwyd ato.
Er bod holl gynnwys y Gynhadledd a’r gweithdai a fynychwyd yn werthfawr, y sesiwn mwyaf ysbrydoledig i mi oedd yr un a gyflwynwyd gan Alexis Quinn** ar Leihau Arferion Cyfyngol. Fel menyw gyda diagnosis o awtistiaeth, rhannodd Alexis ei stori am yr amser estynedig a dreuliodd ar wardiau a oedd yn ddefnyddiol fel claf ac yna wedi hynny pan ddaeth yn Eiriolwr. Y negeseuon allweddol oedd bod yn ofalus ynglŷn â’r defnydd o iaith a sut y gallai hynny arwain at ddiagnosis a thriniaeth anghywir nad oedd yn addas i’r claf ac angen am gariad therapiwtig – sut mae’r gweithiwr iechyd proffesiynol yno i’r cleient yn y ffordd iachaf bosibl i greu newid buddiol.
Roedd y gynhadledd yn brofiad dysgu gwych, yn peri i rywun feddwl ac o werth nid yn unig i mi ond i’r rhai a fynychodd. Rwy'n ddiolchgar i drefnwyr y digwyddiad, y siaradwyr, y cyd-gynadleddwyr ac i ASC am roi'r cyfle i mi fynychu.
Un pwynt olaf. Rwy’n meddwl y byddai mwy o gynrychiolaeth o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ddefnyddiol mewn cynadleddau yn y dyfodol, o ystyried bod Iechyd wedi’i ddatganoli ymhlith cenhedloedd y DU. Gellid rhannu a dysgu mwy er budd pawb – Eiriolwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac, yn bwysig, cleifion. Rwy'n siŵr y byddai ASC yn hapus i chwarae ei ran.
Cysylltwch â info@ascymru.org.uk
*Cynhadledd Eiriolaeth Genedlaethol 2023, Cynnwys Llawn - Cyflwyniadau a Fideos https://www.blackbeltadvocacy.com/2023-conference (yn Saesneg yn unig)
**Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth – Straeon o'r Sbectrwm: Alexis Quinn https://www.autism.org.uk/advice-and-guidance/stories/stories-from-the-spectrum-alexis-quinn (yn Saesneg yn unig)

Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk