Blwyddyn Newydd 2023, Gwasanaeth Newydd – Cyflwyno Eiriolaeth Arbenigol i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth
Rydyn ni nawr yn gallu derbyn atgyfeiriadau ar gyfer ein Eiriolaeth Arbenigol newydd ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae'r gwasanaeth yn darparu eiriolaeth anstatudol i oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ac sy'n derbyn gwasanaethau gofal sylfaenol sydd y tu allan i gylch gorchwyl eiriolaeth iechyd meddwl statudol neu gymunedol.
Cymhwysedd
- Bydd yr eiriolwr arbenigol hwn yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd ar draws ardaloedd Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Bae Abertawe.
- Gall cleientiaid atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth a gall gweithwyr proffesiynol, teulu a ffrindiau wneud atgyfeiriadau hefyd – yr un broses ag atgyfeiriadau Cymunedol.
- Bydd y gwasanaeth arbenigol yn cefnogi pobl i ddeall eu hawliau cyfreithiol a chael mynediad at addasiadau rhesymol, cymorth gyda chyfarfodydd cynllun cefnogi ymddygiad a chyfarfodydd cynllun gofal, cefnogaeth i gael mynediad at gofnodion meddygol, siarad â gweithwyr proffesiynol, cefnogaeth gyda chwynion a chanmoliaeth a chefnogaeth gydag unrhyw bryderon eraill.
Amserlen Ymateb
- Byddwn yn anelu at ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith