Advocacy Support Cymru yn Cyrraedd Safon Ansawdd ‘Investing in Volunteers’ (IiV)

Mae Advocacy Support Cymru (ASC) yn falch iawn o gyhoeddi iddi ennill Safon ‘Investing in Volunteers’ (IiV), sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol, ym mis Gorffennaf.

Mae’r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad i ddarparu profiad gwirfoddoli o ansawdd uchel ac yn dangos bod gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a’u bod yn cael y cyfle i wneud cyfraniad ystyrlon i’r sefydliad a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu ASC i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ledled de a gorllewin Cymru. Mae pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o’n gwasanaethau wedi cyfrannu eu hamser, eu mewnwelediad a’u profiadau personol i brosiectau fel ‘Your Voice’ – cylchlythyr defnyddwyr y gwasanaeth – gan helpu eraill i ddeall yn well fanteision eiriolaeth ac annog pobl i geisio cymorth pan fydd ei angen arnynt.

Mae cyrraedd Safon ‘Investing in Volunteers’ yn adlewyrchu ymrwymiad ASC i wrando, dysgu a gweithio mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol.

Mae ASC yn awyddus i glywed gan bobl sydd wedi defnyddio ei gwasanaethau eiriolaeth ac a hoffai helpu i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth drwy rannu eu profiadau, cyfrannu at gylchlythyr defnyddwyr y gwasanaeth ‘Your Voice’, cefnogi ymgyrchoedd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli neu gymryd rhan, ewch i Gyda’n Gilydd Gwurfoddolwch gyda ni! neu anfonwch e-bost at info@ascymru.org.uk

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod mwy o bobl yn deall eu hawliau ac yn cael mynediad at eiriolaeth annibynnol pan fydd ei angen fwyaf arnynt.

IiV Bilingual Logo PNG

Newyddion a Blogiau

Advocacy Support Cymru yn Cyrraedd Safon Ansawdd ‘Investing in Volunteers’ (IiV)

Mae Advocacy Support Cymru (ASC) yn falch iawn o gyhoeddi iddi ennill Safon 'Investing in Volunteers' (IiV), sy'n cael ei ...

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod cais am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi ein gwasanaeth Anableddau ...

Dilynwch Ni

Cysylltwch â Ni

Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)

Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT

Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD

Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk