Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol A

Cleient Cymunedol A

Roedd Cleient A wedi atgyfeirio ei hun am eiriolaeth oherwydd ei bod wedi cael ei derbyn i Ysbyty Prifysgol Cymru ar ôl i'w phecyn gofal ddod i ben a gan glywed y byddai'n rhaid iddi fynd i leoliad yn Lloegr nad oedd eisiau mynd iddo.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Esboniodd Cleient A ei bod ddim yn teimlo'n hyderus i siarad mewn cyfarfodydd yn enwedig oherwydd y byddai aelodau o'u thîm gofal nad oedd hi wedi eu cwrdd o'r blaen yn mynychu'r cyfarfod nesaf.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Bu Cleient A gwrdd â’i heiriolwr cyn y cyfarfod i drafod y pethau roedd hi eisiau eu codi yn y cyfarfod.
  • Roedd Cleient A wedi paratoi datganiad y roedd hi eisiau i rywun ei darllen yn y cyfarfod.
  • Roedd eiriolwr Cleient A yn bresennol yn y cyfarfod i’w chefnogi gan sicrhau bod y datganiad yn cael ei darllen a gan ofyn cwestiynau perthnasol a phrocio yn ôl yr angen.

Canlyniadau:

Fel rhan o'r cyfarfod, adnabuwyd lleoliad addas yn lleol ac roedd A yn hapus i fynd i'r lleoliad hwn.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd A ei bod yn teimlo bod pobl wedi gwrando arni yn y cyfarfod d dywedodd hefyd ei bod yn hapus gyda'r canlyniad.