Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol B

Cleient Cymunedol B

Roedd Cleient B wedi atgyfeirio ei hun oherwydd ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei phoenydio gan ei chyflogwr tra roedd hi i ffwrdd o'r gwaith yn sâl am resymau iechyd meddwl.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Esboniodd Cleient B wrth ei heiriolwr ei bod wedi bod mewn cysylltiad â'i rheolwr ac wedi esbonio ei bod am dderbyn gohebiaeth ar e-bost yn unig oherwydd ei gorbryder, ond bod hyn wedi cael ei anwybyddu.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Aeth Cleient B i gwrdd â’i heiriolwr i drafod yr opsiynau a oedd ar gael iddi. Esboniodd B wrth ei heiriolwr ei bod wedi ymuno ag undeb a gofynnodd am gefnogaeth i gysylltu â’i chyflogwr a’i chynrychiolydd yn yr undeb.
  • Darparodd yr eiriolwr gefnogaeth i B trwy gysylltu â rheolwr B a’i chynrychiolydd yn yr undeb a threfnu cyfarfod iddyn nhw oll.
  • Siaradodd B â’i heiriolwr a thafod y materion roedd hi am eu codi yn y cyfarfod.

Canlyniadau:

Cefnogwyd B yn y cyfarfod ble gytunwyd y byddai B yn cael ei hatgyfeirio at therapi galwedigaethol. Cytunodd B i'r atgyfeiriad wedi iddi gael esboniad llawn o'r diben. Cytunwyd hefyd y byddai rheolwr B yn cysylltu â hi ar ddiwedd y mis er mwyn cadw mewn cysylltiad.

Ar ôl y cyfarfod dywedodd B bod siarad â'i rheolwr lawer haws a'i bod yn teimlo ei bod yn deall yr hyn a oedd yn ddisgwyliedig ganddi. Dywedodd B hefyd ei bod yn teimlo bod cael eiriolwr yna yn rhoi mwy o hyder iddi siarad yn y cyfarfod.