Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol C
Cleient Cymunedol C
Cafodd Cleient C ei rhyddhau o ysbyty ym mis Rhagfyr 2016 ac nid oedd yn teimlo ei bod wedi derbyn cefnogaeth ddigonol ar ôl ei rhyddhau. Roedd ganddi nifer o broblemau ychwanegol megis Budd-daliadau, Tai, Dyllid ac Iechyd Corfforol a oedd yn dod yn ormod iddi. Er ei bod yn derbyn ychydig o gefnogaeth o deulu a ffrindiau, roedd hyn yn gyfyngedig oherwydd eu hymrwymiadau gwaith a theuluol.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Nid oedd gan Gleient C ddealltwriaeth o rôl y gwasanaethau (y rhai statudol a gwirfoddol). Roedd yna rwystr ychwanegol gan mai lefel isel iawn o Saesneg oedd gan C ac roedd hi adref ar ei phen ei hun ac felly'n methu â chyfathrebu â gwasanaethau yn ystod oriau gwaith.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Yn y cyfarfod cyntaf, trafododd yr eiriolwr yr amryw broblemau a’r opsiynau sydd ar gael i’r cleient (roedd cyfieithydd yn bresennol ym mhob cyfarfod). Oherwydd hyn, roedd y cleient yn gallu penderfynu pa wasanaethau oedd fwyaf addas o ran darparu cefnogaeth gyda materion penodol a hefyd yn gallu canolbwyntio’n glir ar y gwahanol faterion.
- Roedd yr eiriolwr yn gallu cefnogi’r cleient yng nghyfarfodydd CTP ble roddwyd ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cyfieithu priodol.
- Derbyniodd C gefnogaeth i amlinellu eu dymuniadau yn ymwneud â’i chynllun gofal.
- Ar gyfarwyddyd C, fe weithiodd yr eiriolwr gyda rhwydwaith cefnogaeth y cleient hefyd i adolygu cynnydd yn ymwneud â’i chynllun gofal a gofynnodd hefyd am Weithiwr Cymdeithasol newydd gan ei bod wedi mynegi ei hanfodlonrwydd gyda’r gefnogaeth a ddarparwyd.
- Mae’r eiriolwr hefyd wedi cysylltu â gwahanol asiantaethau i egluro dymuniadau’r cleient gan sicrhau bod y cleient yn derbyn diweddariadau rheolaidd gan wasanaethau.
Canlyniadau:
O ganlyniad i'r gefnogaeth eiriolaeth, mae gan y cleient gwell dealltwriaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael iddi ac mae hi'n teimlo ei bod wedi gallu cymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir amdani.
Dywedodd y cleient ei bod yn teimlo bod cynnydd yn cael ei wneud, er bod hyn yn araf ar adegau.