Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol D

Cleient Cymunedol D

Roedd Cleient D wedi symud o Orllewin Cymru ble roedd wedi bod yn derbyn cefnogaeth yn flaenorol gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Roedd y cleient hefyd wedi gwasanaethu yn y fyddin ble roedd wedi derbyn cefnogaeth iechyd meddwl. Wrth symud i Gaerdydd, roedd wedi dioddef anawsterau cychwynnol gan mai gwasanaethau eilaidd oedd yn gofalu amdano a phan ddechreuodd y gwasanaethau ofalu amdano yn y pen draw, roedd yn teimlo ei bod wedi cael diagnosis anghywir. Roedd yn teimlo bod y diagnosis anghywir yn rhwystro ei adferiad.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Nid oedd D yn glir o ran sut gallai ofyn am gefnogaeth ar gyfer ei gyflwr iechyd meddwl.

Pan ddechreuodd y gwasanaethau ofalu amdano, roedd D yn teimlo bod y gweithwyr proffesiynol yn anwybyddu ei brofiad ei hun a'i dealltwriaeth o'i gyflwr ac, yn ei farn ef, bod ei farn yn cael ei hanwybyddu pan roedd yn codi cwestiynau am ei ddiagnosis.

Roedd yn teimlo bod y staff yn ystyried barn staff o'r un gwasanaeth yn unig ac yn anwybyddu unrhyw ddiagnosis blaenorol o wasanaethau eraill.

Yn sgil hyn, nid oedd yn teimlo ei fod yn derbyn cefnogaeth a thriniaeth briodol.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Yn y cyfarfod cyntaf, dywedodd yr Eiriolwr wrth D am ei hawl i atgyfeirio ei hun at wasanaethau eilaidd dan delerau Mesur Cymru, ac yn dilyn asesiad, penderfynwyd mai gwasanaethau eilaidd ddylai ofalu am D.
  • Ail-atgyfeiriodd y cleient am eiriolaeth gan ei fod yn anfodlon gyda’r gefnogaeth a oedd yn cael ei chynnig. Wedi codi ei bryderon ar lafar, nid oedd D yn teimlo bod pobl yn gwrando ar ei bryderon. Cynigodd yr Eiriolwr opsiynau i’r cleient o ran sut y gallent fod am symud ymlaen gyda’r mater, gan gynnwys mynegi pryder, gofyn am adolygiad CTP neu ofyn am ail farn.
  • Gyda’r wybodaeth yma, roedd y cleient yn gallu gwneud dewis hysbys; Ysgrifennodd yr eiriolwr ar ran y cleient i ofyn am ail farn yn ymwneud â’r diagnosis.
  • Pan gafodd hwn ei wrthod gan CMHT, fe gefnogodd yr eiriolwr y cleient i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad ac er bod hwn hefyd wedi cael ei wrthod, oherwydd bod asesiad llawn a chynhwysfawr wedi cael ei wneud, fe roddwyd sicrwydd i’r cleient y byddai cais yn cael ei wneud am ei gofnodion o Orllewin Cymru ac y byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei adolygu os oedd angen.

Canlyniadau:

Nid oedd Cleient D yn hapus gyda'r penderfyniad a wnaed ond roedd yn teimlo bod pobl wedi gwrando arno oherwydd ymglymiad yr eiriolwr.