Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol E
Cleient Cymunedol E
Cyfeiriodd Cleient E ei hun am eiriolaeth oherwydd ei fod ef a'i bartner wedi cyflwyno'u hunain fel pobl ddigartref i'r cyngor ac roedd o'r farn bod y cyngor yn pryderu mwy a oedden nhw'n gwpl yn hytrach na'u gweld fel pobl ddigartref. Golygodd hyn bod rhaid i E dalu iddynt aros mewn gwestai wrth iddynt ddatrys y sefyllfa.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Bu E gwrdd â'i eiriolwr gan esbonio ei bod wedi ceisio siarad â'r adran tai ond bod neb yn gwrando arno.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Yn ystod y cyfarfod gyda’r eiriolwr, fe drafodwyd yr opsiynau i E.
- Cyfarwyddodd E ei eiriolwr i barhau gyda chwyn i’r cyngor yn ymwneud â’i brofiad. Drafftiodd eiriolwyr E lythyr o gŵyn a’i hanfon, wedi i E ddweud ei bod yn hapus gyda’r cynnwys.
- Wedi cyflwyno’r gŵyn, gwahoddwyd E i fynychu cyfarfod gyda’r cyngor i fynd i’r afael â’r gŵyn. Aeth E i gwrdd â’i eiriolwr cyn y cyfarfod i drafod y materion roedd am eu codi yn y cyfarfod.
Canlyniadau:
Eiriolodd E yn dda dros ei hun yn y cyfarfod a doedd dim angen llawer o fewnbwn gan ei eiriolwr. Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd E ymddiheuriad a dywedwyd wrtho fod y gwasanaeth a dderbyniodd wedi bod yn is na disgwyliadau'r cyngor.
Yn dilyn y cyfarfod, derbyniodd E lythyr yn ailadrodd yr ymddiheuriad a dderbyniodd yn y cyfarfod a derbyniodd £50 fel iawndal.
Nododd E fod cefnogaeth yr eiriolwr wedi bod yn fuddiol a'i fod yn teimlo'n fwy hyderus i siarad gyda chefnogaeth yr eiriolwr.