Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol F

Cleient Cymunedol F

Roedd Cleient F wedi atgyfeirio ei hun am gefnogaeth eiriolaeth oherwydd bod wedi bod yn ceisio datrys problem gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau'n talu costau tai i ddarparwr ei morgais gan fod hyn heb gael ei gwneud am dros 6 mis. Esboniodd hefyd, pan iddi fynychu asesiad ESA, bod hyn wedi bod yn brofiad negyddol iddi.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Esboniodd F i'w heiriolwr ei bod wedi ceisio cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn ogystal â chael cefnogaeth gan asiantaethau eraill ond bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi ei hanwybyddu.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Bu F gwrdd â’i heiriolwr gan esbonio ei bod eisiau gwneud cwyn yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau dros y driniaeth a dderbyniodd hi.
  • Drafftiodd eiriolwr F lythyr o gŵyn i’w hanfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyda F yn cymeradwyo’r llythyr ac yn cyfarwyddo ei hanfon i’r adran berthnasol.
  • Yn dilyn cwyn, derbyniodd eiriolwr F e-byst yn uniongyrchol ar gais F.

Canlyniadau:

Derbyniwyd ymateb gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a oedd yn nodi eu bod heb fodloni'r safonau y disgwylir ganddynt. Dylai'r taliadau fod wedi cael eu gwneud tuag at gostau tai F, a chafodd y rhain eu gwneud. Derbyniodd F ymddiheuriad am lefel y gwasanaeth a dderbyniodd hi a dyfarnwyd taliad cysurol i F.

Derbyniodd F ymddiheuriad hefyd am ei phrofiad gyda'r asesiad ESA a dywedwyd wrthi y byddai'r unigolyn a gynhaliodd yr asesiad yn cael ei monitro.