Astudiaethau Achos / Cleient Cymunedol G

Cleient Cymunedol G

Mae Cleient G yn gleient cymunedol sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma oherwydd camdriniaeth yn y gorffennol. Roedd G yn cael anhawster yn cael gafael ar ei phresgripsiynau wythnosol o Glinig CMHT. Mae gan G feddyginiaeth sy'n rhaid i'w fferyllydd ei harchebu oherwydd nid yw'n un sy'n cael ei chadw mewn stoc. Roedd G hefyd eisiau cael gweithiwr cefnogi tenant i'w helpu gyda'i phroblemau tai. Mae G wedi dioddef o gamdriniaeth yn y gorffennol ac mae'n cael trafferth yn mynegi ei hun mewn asesiadau. Gofynnodd G am gefnogaeth yn ei hasesiad meddygol ESA.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Oherwydd Anhwylder Straen Wedi Trawma G yn sgil camdriniaeth yn blentyn, roedd G yn cael trafferth yn mynegi ei hun heb ddod yn drist neu'n grac gydag eraill.

Hefyd, gan fod G yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, mae dod o hyd i le addas i gwrdd â phobl wedi bod yn broblem erioed. Roedd G yn teimlo na fod y clinig CMHT yn gwrando arni neu'n ei helpu. Nododd G ei wedi bod yn dioddef o'r un problemau am fisoedd a bod dim byd wedi newid.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Bu’r Eiriolwr gwrdd â G a gwrando ar ei phroblemau. Yna aeth yr Eiriolwr trwy nifer o opsiynau gyda G, o ran sut gallai godi ei phryderon.
  • Ar gyfarwyddyd G, ysgrifennodd yr Eiriolwr lythyr o gŵyn i CMHT G. Yna aeth yr Eiriolwr i gwrdd â G i drafod y llythyr cyn ei anfon.
  • Helpodd yr Eiriolwr i G lenwi atgyfeiriad am gefnogaeth tai i denantiaid gyda’i darparwr tai, ac e-bostio’r ffurflenni atgyfeiriad a chysylltu â swyddfa cefnogaeth i denantiaid ar ran G.
  • Bu’r Eiriolwr hefyd helpu G baratoi ar gyfer ei hasesiad ESA, gan baratoi datganiad ar ran G. Mynychodd yr Eiriolwr yr asesiad gyda G am gefnogaeth.

Canlyniadau:

Dywedodd G y byddai dim byd wedi newid heb gymorth eiriolwr. Fodd bynnag, gyda'r gefnogaeth a dderbyniodd G gan yr eiriolwr, mae hi nawr yn teimlo ei bod yn gallu symud ymlaen gyda'i bywyd.