Astudiaethau Achos / IMCA Cleient D
IMCA Cleient D
Roedd Cleient D yn ddyn a oedd yn byw mewn cartref gofal. Roedd ganddo anabledd dysgu a phroblem stumog heb ddiagnosis. Cyfarwyddyd IMCA i weithredu mewn perthynas â chynnig Triniaeth Feddygol Ddifrifol i lonyddu D a chynnal archwiliadau i bennu beth oedd y broblem stumog.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Roedd yn amlwg i'r IMCA o gasglu gwybodaeth a chwrdd â D a siarad â staff a oedd yn ei gefnogi, y byddai P yn anfodlon iawn i ymrwymo mewn unrhyw driniaethau meddygol. Byddai angen cynllunio gofalus cyn, yn ystod, ac ar ôl y driniaeth, er mwyn sicrhau bod yr opsiynau lleiaf cyfyngol a lleiaf gofidus yn cael eu defnyddio.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Mynychodd IMCA y cyfarfod budd pennaf cyntaf. Esboniwyd gan y meddyg teulu y byddai’n hoffi i D gael ei lonyddu ac y dylid mynd ag ef i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys am golonosgopi. Esboniodd IMCA pe byddai D yn yr ysbyty, yna’r un a fyddai’n penderfynu a ddylid cynnal colonosgopi ai peidio byddai ymgynghorydd yr ysbyty. Gofynnodd IMCA a fyddai modd penodi un er mwyn gallu codi cwestiynau gyda nhw am y penderfyniad arfaethedig hwn.
- Tra’n aros i benodi ymgynghorydd yr ysbyty (y sawl a fyddai’n gwneud y penderfyniad), penderfynodd y meddyg teulu y dylid llonyddu D a’i anfon i’r ysbyty fel penderfyniad brys Rhagnodwyd Lorazepam i D ac fe geisiodd staff y cartref gofal fynd ag ef i’r ysbyty. Ar gyrraedd yr ysbyty, gwrthododd D adael y car ac esboniodd staff yr ysbyty yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys bod dim modd iddynt lonyddu D ymhellach, na chwaith cefnogi anghenion cymhleth D. Aeth D adref yn dilyn hyn. Cynhaliwyd ail ymgais aflwyddiannus i lonyddu D a mynd ag ef i’r ysbyty wrth gynnal digwyddiad brys. Nid oedd penderfyniad budd pennaf blaenorol wedi cael ei wneud yn y naill achos neu’r llall.
- Roedd ymgynghorydd yr ysbyty a oedd ynghlwm yn yr achos hwn wedi gofyn am brofion gwaed. Eto heb unrhyw broses budd pennaf, dywedwyd wrth yr IMCA bod dau achlysur wedi bod pan gynhaliwyd prawf gwaed ar D, gydag un achlysur yn cynnwys ataliad diogel er bod cytundeb blaenorol wedi bod gyda’i MDT bod hyn yn rhy ofidus ac y ni ddylid ei defnyddio.
- O ganlyniad, fe gododd yr IMCA atgyfeiriad diogelu ac mae ymchwiliad i’r mater yn parhau. Mae pryderon iechyd D bellach wedi datrys ar eu pennau eu hunain, fodd bynnag, mae proses budd pennaf bellach yn ei le yn ymwneud â phrawf gwaed pellach, ac mae’r IMCA yn rhan o hyn.
Canlyniadau:
O ganlyniad i ymglymiad yr IMCA, sicrhaodd yr IMCA bod y broses budd pennaf cywir yn cael ei dilyn, ac fe gododd atgyfeiriad diogelu pan roedd D mewn peryg o gamdriniaeth emosiynol, seicolegol a chorfforol oherwydd y llonyddu a chael ei gymryd i'r ysbyty yn erbyn ei ewyllys heb gynllunio cywir.
O ganlyniad i ymglymiad yr IMCA, fe weithiodd y tîm diogelu'n agos gyda'r MDT i sicrhau bod yr opsiwn lleiaf cyfyngol yn cael eu ceisio a bod y gofal yn cael ei gynllunio'n gywir. Mae'r IMCA yn parhau i gynrychioli D mewn perthynas â'r penderfyniad yn ymwneud â phrawf gwaed a bydd yn parhau i weithredu fel amddiffyniad ar ei gyfer.