Astudiaethau Achos / IMCA Cleient C
IMCA Cleient C
Roedd C yn glaf mewn ysbyty a chafodd ei atgyfeirio mewn perthynas â phenderfyniad Triniaeth Feddygol Ddifrifol. Mae C yn fenyw hŷn gyda diagnosis o ddementia ac roedd wedi bod yn byw mewn cartref preswyl cyn cael ei derbyn i'r ysbyty. Roedd C wedi bod yn dioddef o urosepsis ac yn dioddef o nifer o broblemau iechyd eraill gan gynnwys ataliad blaenorol ar y galon ac osteoporosis. Nododd yr atgyfeiriad bod cyflwr C wedi gwaethygu yn ystod ei hamser yn yr ysbyty, a'i bod bellach yn dioddef o ddysffasia a'i bod dan ofal y therapydd iaith a lleferydd a'r tîm meddygol. Aseswyd bod C mewn peryg o allsugno ac roedd tiwb bwydo gastrig trwynol wedi cael ei mewnosod, gyda C yn ei dynnu allan. Roedd C yn cael hylifau cam 2 ac nid oedd yn cael ei bwydo oherwydd y risg o allsugno. Oherwydd ei risg o amsugno, nid oedd C wedi cael ei bwydo am dros 5 wythnos, felly roedd atgyfeiriad am Astrostomi Endosgopig Trwy'r Croen (PEG) wedi cael ei wneud.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Ymwelodd yr IMCA â C i bennu eu dymuniadau a safbwyntiau o ran y penderfyniad arfaethedig am y PEG. Nid oedd yr IMCA yn gallu cadarnhau dymuniadau a safbwyntiau C ar y driniaeth oherwydd ei chyflwr a'i hanawsterau cyfathrebu.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Mynychodd yr IMCA gyfarfod budd pennaf ar ran C. Mynegodd yr MDT bryder bod C yn cael ei hydradu ar hyn o bryd trwy dderbyn hylifau is groenol a’u bod yn methu â rhoi hylifau mewnwythiennol neu gymryd samplau gwaed oherwydd breuder gwythiennau C. Roedd tiwb gastrig trwynol wedi cael ei drio, ond roedd C wedi ei dynnu allan. Penderfynwyd atgyfeirio A er mwyn mewnosod PEG.
- Nid oedd y dietegydd a oedd ynghlwm yn bresennol ond roedd wedi anfon adroddiad i’r ward a oedd yn mynegi nifer o bryderon. Roedd y dietegydd o’r farn bod C mewn peryg o syndrom ail-fwydo a nodwyd bod yna “wrtharwyddion ar gyfer PEG”. Roedd adroddiad y dietegydd hefyd yn nodi, pe byddai C yn cael ei chadw ar dref ‘dim trwy’r geg’ ac yn cael ychydig o hylif yn unig, ni fyddai’n ddigon iach i gael triniaeth.
- Wrth ddarllen cofnodion iechyd C, nododd yr IMCA bod C yn derbyn meddyginiaeth diwedd oes. Fodd bynnag, doedd dim cofnod o asesiad neu adolygiad gan y tîm gofal lliniarol. Roedd cofnod ‘Na cheisier dadebru’ yn weithredol ar ffeil C. Nid oedd yn cynnwys unrhyw wybodaeth o ran a oedd yr ysbyty wedi ymgynghori ag unrhyw un ar y mater hwn neu a oedd atgyfeiriad IMCA wedi cael ei ystyried. Gofynnodd yr IMCA am ragor o eglurhad o ran adroddiad y dietegydd a bod angen eglurdeb o ran risgiau penodol yr ymyriad llawfeddygol arfaethedig gan ei fod yn ymwneud ag achos C yn benodol, gan ystyried ei holl faterion meddygol.
- Os oedd C yn cael ei hystyried fel claf gofal lliniarol, roedd angen archwilio hyn ymhellach oherwydd gallai gael effaith ar a oedd y llawdriniaeth arfaethedig er budd pennaf y person ar gyfnod diwedd oes.
- Nododd yr ymgynghorydd ei bod yn methu â gwneud penderfyniad oherwydd yr ymholiadau a oedd dros ben. Yn dilyn y cyfarfod, aeth ef a staff y ward i gwrdd â chydweithiwr mewn ymgais i ddatrys rhai o’r materion a godwyd a’r cynnydd yn yr achos.
Canlyniadau:
Gwnaethpwyd ceisiadau pellach i gael mynediad at wythiennau C er mwyn trosglwyddo hylifau a chymryd samplau gwaed er mwyn monitro iechyd C. Roedd y rhain yn llwyddiannus, gan arwain at P yn gallu derbyn yr hydradiad cywir.
Adolygwyd cyflwr C gan yr ymgynghorydd gan bennu ei bod yn sefydlog yn gorfforol ac nid ar gyfer diwedd oes. Fe drafododd achos C gyda llawfeddyg gastrig ymgynghorol ac fe'i cynghorwyd y dylid ymgeisio ffitio tiwb gastrig trwynol gan ddefnyddio ffrwyn i'w sicrhau yn ei le. Llwyddwyd gwneud hyn ac roedd C yn gallu derbyn maeth.
Cynhaliwyd cyfarfod budd pennaf arall er mwyn gwneud y penderfyniad terfynol. Y canlyniad oedd i stopio mewnosod PEG oherwydd, gan edrych ar statws meddygol C yn benodol, y teimlad oedd bod y ffactorau risg (anaesthesia, allsugno, niwmonia, syndrom ail-fwydo) yn rhy uchel ac y byddent yn cyfaddawdu ansawdd bywyd C.
Goddefodd C y tiwb gastrig trwynol am ychydig ddiwrnodau. Fodd bynnag, roedd ei chyflwr wedi gwella i'r fath graddau ei bod yn gallu cael diet mwtrin a hylifau wedi'u tewychu. Mae peiriant sugno bellach ar gael i helpu gydag unrhyw broblemau allsugno.
Bu'r dietegydd a'r therapydd iaith a lleferydd barhau gyda'u hymyriadau. Llwyddwyd bwydo C gan ddefnyddio dewis amgen llai cyfyngol i'r ymyriad llawfeddygol.