Astudiaethau Achos / IMCA Cleient F

IMCA Cleient F

Mae F yn glaf ysbyty yng Nghwm Taf sydd mewn cyflwr ymwybodol minimol. Penodwyd IMCA fel ei RPR. Mae gan F deulu sy'n ymweld yn rheolaidd, fodd bynnag maen nhw'n aml yn anghytuno am ei anghenion gofal, a sut dylid ei gefnogi pan mae'n gadael ysbyty.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Mae gan F draceotomi ond yn sgil secretiadau parhaol yn ei wddf, nid oedd modd ei dynnu. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar ofal hir dymor ac adferiad posib.

Hoffai deulu F iddo gael ei symud i ysbyty yng Nghaerdydd am adferiad dwys, fodd bynnag, mae yna restr aros hir. Esboniodd MDT yr ysbyty y byddai'n hoffi trosglwyddo F i ysbyty Cwm Taf yn lle hynny. Heriodd teulu F hyn i gychwyn oherwydd eu bod yn teimlo, os ydyw'n symud i Gwm Taf, bydd dim ymgais gweithgar i ddiddyfnu'r draceotomi.

Pennodd yr IMCA y dylid cefnogi F i gael ei godi allan o'r gwely i mewn i gadair am o leiaf awr y diwrnod. Fodd bynnag, oherwydd problemau staffio, nid oedd hyn wedi bod yn bosib. Mynegodd yr IMCA bryder am hyn gan fod F angen cymaint o symbyliad â phosib oherwydd ei gyflwr ymwybodol minimol. Mae'r IMCA hefyd wedi gofyn i'r tîm ffisiotherapi a fyddai F yn cael y cyfle i gael ei godi allan o'r gwely pe byddai'n symud i ysbyty Cwm Taf. Dywedwyd wrth yr IMCA mai'r tîm fyddai'n penderfynu hynny.

Ar hyn o bryd mae nyrs gymwys yn goruchwylio F ar sail 1:1 24 awr y diwrnod er mwyn iddo allu derbyn y cymorth gofynnol mewn perthynas â'r secretiadau yn ei wddf. Gofynnodd yr IMCA bod hyn yn cael ei monitro a'i adolygu yn rheolaidd gan fod hyn yn gyfyngiad mawr mewn perthynas â cholli ei ryddid.

Mae F mewn ystafell ochr ar ei ben ei hun. Holodd yr IMCA a fyddai'n buddio o fod mewn cilfan gyda chleifion eraill er mwyn iddo gael y posibilrwydd o ryngweithio â phobl eraill. Fodd bynnag, mae teulu F wedi dweud y byddai ddim eisiau hyn ac y byddai'n well ganddo fod mewn ystafell breifat.

Mae chwaer a phartner F yn anghytuno ar beth ddylai ddigwydd pan gaiff F ei ryddhau o'r ysbyty. Nid yw F yn sefydlog yn feddygol i'w ryddhau eto, ond os na ellir cytuno ar benderfyniad, bydd rhaid gwneud cais i'r Llys Gwarchod.

Roedd rhaid i'r IMCA amlinellu ffiniau'r gwasanaeth yn glir i chwaer F a oedd wedi bod yn cysylltu'r gwasanaeth IMCA yn rheolaidd ac yn gofyn am farn bersonol yr IMCA ar y sefyllfa.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Sicrhaodd yr IMCA bod yr amodau o fewn awdurdodaeth y DOLs yn cael eu bodloni.
  • Sicrhaodd yr IMCA hefyd bod cwestiynau’n cael eu gofyn ar ran F er mwyn sicrhau ei bod yn derbyn y gefnogaeth leiaf cyfyngedig posib.
  • Sicrhaodd yr IMCA bod gan F gynrychiolydd annibynnol er mwyn sicrhau bod y broses budd pennaf yn cael ei dilyn yn gywir a ddim yn cael ei ddominyddu gan farn bersonol a dadleuon y teulu.

Canlyniadau:

Mae F wedi cael ei roi ar y rhestr aros am wely yn yr ysbyty yng Nghaerdydd. Cytunwyd y byddai F yn cael ei drosglwyddo i ysbyty Cwm Taf fel mesur dros dro.