Astudiaethau Achos / IMCA Cleient G
IMCA Cleient G
Roedd G yn byw mewn Cartref Nyrsio. Gwnaethpwyd atgyfeiriad i'r tîm IMCA mewn perthynas ag Adolygiad Gofal. Nododd yr atgyfeiriad bod dau fater yn ymwneud â diogelu. Roedd G wedi gwneud honiadau yn erbyn aelod o staff gwrywaidd ac roedd hefyd pryderon yn ymwneud â chyfeillgarwch G gyda dyn a oedd yn ymweld yn rheolaidd.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Dywedodd y staff nyrsio wrth yr IMCA bod yna bryder am ffrind G ar ôl iddynt ddod o hyd iddo yn ei hystafell gyda'r drws wedi cloi. Yn dilyn y digwyddiad hwn, stopiodd y staff ffrind G rhag cymryd G allan i mewn i'r gymuned gan fod G yn methu dweud wrth staff i le roedden nhw'n mynd. Nid oedd yna deimlad bod gan G y galluedd i benderfynu a ddylai hi fynd gydag af, neu a oedd hi eisiau mynd gydag ef.
Dywedodd staff y cartref gofal a'r Gweithiwr Cymdeithasol a benodwyd wrth yr IMCA bod G wedi ymweld â chartref gofal a chael ei hasesu ym mis Rhagfyr 2016 ac roedd yn ymddangos bod ganddi'r galluedd i benderfynu ble roedd hi'n byw, a hi ei hun ddewisodd y cartref. Nododd staff y cartref gofal, ers iddi symud i'r cartref, bod cyflwr G wedi newid ac ymddengys bod yna ddirywiad wedi bod yn ei gwybyddiaeth.
Nododd rheolwr y cartref gofal bod ffrind G wedi bod yn rheoli cyllid G ac er bod dim tystiolaeth i awgrymu camdriniaeth ariannol, roedd dirprwyaeth trwy'r Llys Gwarchod yn cael ei hystyried. Roedd aelod o staff wedi dod o hyd i ffrind G yn ystafell G gyda'r drws wedi cloi. Yn dilyn cyngor gan y Tîm Amddiffyn lleol, mae G a'i ffrind bellach yn cwrdd mewn rhannau cyhoeddus o'r cartref. Dywedodd yr IMCA wrth reolwr y cartref gofal a'r gweithiwr cymdeithasol a benodwyd bod G wedi dweud ei bod yn mwynhau'r ymweliadau hyn, a'i bod heb fynegi unrhyw bryderon.
Cafwyd trafodaeth am honiadau G yn ymwneud ag aelod o staff gwrywaidd. Roedd G wedi gwneud nifer o honiadau i'r staff gofal a'i ffrind hi. Bu'r heddlu archwilio'r honiad ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach. Mae'r achos dal ar agor rhag ofn y bydd unrhyw honiadau pellach yn cael eu gwneud. Roedd yr aelod o staff wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am sbel ond roedd wedi dychwelyd erbyn hyn ac roedd yn gweithio ar y llawr cyntaf yn unig, i ffwrdd o G sydd ag ystafell ar y llawr gwaelod.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd y rheolwr y dylid symud G i gartref arall ychydig filltiroedd i ffwrdd. Gan mai dyma oedd y tro cyntaf i'r IMCA fod yn ymwybodol o'r symud posib, dywedodd yr IMCA y byddai angen cael trafodaeth gyda G er mwyn pennu ei dymuniadau a safbwyntiau. Roedd G yn gyson yn ei safbwynt ei bod ddim eisiau symud i Gartref Nyrsio arall.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Bu’r IMCA gwrdd â G, ymgynghori â staff nyrsio a chael mynediad at gofnodion.
- Bu’r IMCA gwrdd â G yn breifat. Yn ystod y drafodaeth, dywedodd G ei bod yn hoffi ble mae hi’n byw a bod y staff yn neis iawn. Gofynnodd G os oedd hi’n cael ymwelwyr, a dywedodd hi ei bod hi’n cael ymwelwyr. Dywedodd hi wrth yr IMCA bod ei ffrind yn ymweld yn rheolaidd, ei bod yn gofalu amdani ac yn gwneud llawer drosti. Nododd G ei bod yn mwynhau ymweliadau ei ffrind.
- Trafododd yr IMCA y ddau fater diogelu gyda rheolwr y Cartref Gofal a’r Gweithiwr Cymdeithasol a benodwyd. Mae’r Heddlu a’r tîm diogelu wedi bod yn rhan o’r broses mewn perthynas â’r pryderon/honiadau, ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach.
Canlyniadau:
Yn dilyn ymglymiad yr IMCA, cytunodd y Gweithiwr Cymdeithasol a rheolwr y cartref mai'r budd pennaf i G fyddai parhau i gwrdd â'i ffrind mewn man cyhoeddus yn y cartref, ond bod y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd, yn enwedig os yw G yn gofyn i gwrdd â'i ffrind mewn man mwy preifat.
Cytunodd y Gweithiwr Cymdeithasol a rheolwr y cartref y ni fyddai'n fuddiol symud G i leoliad arall oherwydd roedd hi wedi mynegi dymuniad clir a chyson i aros yn ei chartref presennol. Yn dilyn ymglymiad yr IMCA, cafodd cais ei wneud i'r Llys Gwarchod mewn perthynas â chyllid.
Nid oedd awdurdodaeth DOLs yn ei le. Cododd yr IMCA hyn gyda rheolwr y cartref a gytunodd i ffonio Cydlynydd y DOLs a gwneud cais am awdurdodaeth ar frys.