Astudiaethau Achos / IMCA Cleient H
IMCA Cleient H
Roedd H wedi bod yn byw mewn cartref preswyl yng Nghaerdydd ers 2012. Cafodd atgyfeiriad ei wneud i'r Tîm IMCA mewn perthynas â phenderfyniad arfaethedig yn ymwneud â Symudiad Llety Hir Dymor.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Aeth yr IMCA i gartref H ac adolygu ei ffeil. Siaradodd yr IMCA â staff ynghyd â mynd i gwrdd â H.
Wrth asesu ffeil a chofnodion gofal H, nododd yr IMCA bod dim Asesiad Galluedd mewn perthynas â'r Symudiad Llety Hir Dymor wedi cael ei wneud, nid oedd Awdurdodaeth DOLs yn ei le, ac roedd DNAR yn ei le ers mis Hydref 2016. Nid oedd gan H unrhyw deulu na ffrindiau a oedd yn fodlon neu'n gallu cael eu hymgynghori ar y penderfyniad ond doedd dim ymgynghori wedi cael ei gynnal gyda'r IMCA.
Dywedwyd wrth yr IMCA gan y staff yn y cartref bod H wedi bod yn y gwely, mewn ystafell dywyll, gyda'r llenni wedi'u tynnu a'r goleuadau i ffwrdd heb unrhyw dystiolaeth o symbyliad meddyliol neu gorfforol ers 2012. Roedd H yn gallu cyfathrebu ond yn ôl y staff roedd wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i beidio ag ymrwymo.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Nododd yr IMCA nad oedd unrhyw dystiolaeth ddogfennol yn nodiadau H nac yn y Cynlluniau Gofal o gyfarfodydd budd pennaf a oedd yn cael eu cynnal i drafod sefyllfa H.
- Cysylltodd yr IMCA â thîm y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a meddyg teulu H i drafod sefyllfa H.
- Ceisiodd yr EAGM gysylltu ag Asesydd Nyrsio’r Bwrdd Iechyd ar sawl achlysur er mwyn codi pryderon am y diffyg ysgogiad meddyliol a chorfforol ond nid oedd yn gallu siarad â hi am yr achos hwn am rai wythnosau.
Canlyniadau:
Yn dilyn ymglymiad yr IMCA, gwnaethpwyd cais am awdurdodaeth DOLs a gafodd ei gymeradwyo a gwnaethpwyd cais am RPR â thâl gan dîm y DOLs.
Yn dilyn pryderon a fynegwyd gan yr IMCA a benodwyd, cytunodd meddyg teulu H i adolygu'r DNAR a oedd yn ei le, a gwnaethpwyd atgyfeiriad SMT i'r tîm IMCA.
Dywedodd staff y Bwrdd Iechyd wrth yr IMCA bod gan y cartref gofal berchnogion newydd ac mae'r bwriad oedd gadael H ble roedd e i roi cyfle i'r perchnogion newydd edrych dros ei gynllun gofal. Cynghorwyd y Bwrdd Iechyd gan yr IMCA, er bod ei rôl mewn perthynas â'r Symudiad Llety Hir Dymor wedi dod i ben, byddai ymglymiad yr IMCA yn parhau mewn perthynas â phenderfyniad yr SMT.