Astudiaethau Achos / IMHA Cleient B
IMHA Cleient B
Gofynnodd Cleient B am gefnogaeth IMHA gyda phroblemau yn cael mynediad at seibiant â chydymaith i fynd i'r eglwys ar foreau Sul. Roedd y gweithgaredd hwn wedi cael ei drefnu gan staff a'i bwcio i mewn i ddyddiadur y ward. Ar y diwrnod roedd hi i fod i fynd i'r eglwys, dywedwyd wrthi fod dim modd iddi fynd oherwydd bod dim digon o aelodau o staff ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw. Fel Cristion, roedd mynd i'r eglwys yn weithgaredd pwysig iawn iddi ond roedd hi'n teimlo bod y staff yn ddiystyriol o hyn.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Roedd B wedi codi'r mater gyda staff ond heb gael unrhyw sicrwydd y byddai'n gallu mynd i'r eglwys. Dywedodd bod hyn yn dibynnu ar niferoedd staff ond bod dim dyddiad newydd wedi cael ei drefnu. Roedd B yn anhapus am hyn oherwydd nid oedd hi wedi gallu mynd i'r eglwys er cael ei derbyn ac roedd hi'n teimlo ei bod wedi gweithio'n galed i gael seibiant â chydymaith.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Roedd B eisoes wedi cwyno am gael mynediad at seibiannau ac wedi cael ei chynghori i gysylltu â rheolwr yr ysbyty os oedd ganddi unrhyw faterion pellach.
- Cyfarwyddodd B i’r IMHA gysylltu â rheolwr yr ysbyty i godi’r mater fel pryder anffurfiol i gychwyn.
- E-bostiodd yr IMHA y rheolwr ar ran B i godi ei phryderon ac fe dderbyniwyd ymateb sydyn gyda sicrhad y byddai rhywun yn edrych i mewn i’r mater ar frys.
Canlyniadau:
Cysylltodd yr IMHA â B pythefnos yn ddiweddarach. Roedd y mater bellach wedi cael ei datrys diolch i ymglymiad rheolwr yr ysbyty. Mae hi nawr yn mynd i'r eglwys yn rheolaidd ar foreau Sul.
Diolchodd B i'r IMHA a dywedodd ei bod yn teimlo bod pobl wedi trin ei phryder yn fwy difrifol gydag ymglymiad IMHA.