Astudiaethau Achos / IMHA Cleient C

IMHA Cleient C

Roedd Cleient C yn methu siarad oherwydd materion iechyd corfforol. Nid oedd C yn teimlo bod ganddo unrhyw bŵer. Roedd C yn teimlo bod penderfyniadau am ofal yn cael eu gwneud heb ei ymglymiad gan fod cyfathrebu yn broblemus.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Roedd C yn methu cyfathrebu ar lafar. Roedd C wedi colli'r defnydd o'i braich dde (roedd C yn llawdde). Roedd C yn defnyddio taflen o bapur wedi'i lamineiddio gyda'r wyddor wedi'i argraffu arni.

Byddai C yn sillafu geiriau trwy bwyntio at un llythyren ar y tro. Roedd hyn yn llafurus ac yn cymryd amser, ac yn flinderus i C.

Roedd yn aml yn anodd i eraill ddilyn a deall yn llawn beth roedd C yn ceisio ei gyfleu.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Ymwelodd yr IMHA â C a phennu mai diffyg cyfathrebu oedd y broblem, nid diffyg galluedd.
  • Ymwelodd yr IMHA â C ar sawl achlysur gyda chymorth IMHA arall sy’n ddarllenwr gwefusau (roedd C yn gallu gwefuso geiriau ond yn methu eu hynganu). IMHA ddefnyddio dyfais llechen hefyd ac roedd C yn gallu defnyddio’r ddyfais i sillafu brawddegau cyfan, gan ddefnyddio ei law dde.
  • Defnyddiodd y ddau IMHA eu hamser gan gydweithio gyda sgiliau arbenigol er mwyn ennill barn C ar eu gofal a thriniaeth.
  • Roedd C yn teilo bod y staff ar y ward yn brysur iawn a ddim bob tro â’r amser gofynnol i gyfathrebu’n llawn. Roedd y ddau IMHA yn gallu hwyluso hyn.

Canlyniadau:

Roedd C yn gallu cael mwy o ddweud mewn penderfyniadau yn ymwneud â thriniaeth yn yr ysbyty a'r opsiynau 'symud ymlaen' o'r ysbyty.

Roedd C yn teimlo'n well o ran cyfathrebu barn a dymuniadau i staff y ward a oedd yn gofalu amdano.