Astudiaethau Achos / IMHA Cleient E
IMHA Cleient E
Dywedodd Cleient E wrth yr IMHA bod ganddo ddim mynediad at arian i brynu hanfodion i'w defnyddio tra roedd ar y ward. Nid oedd gan E adran 17 i roi caniatâd iddo at ei fanc neu beiriant arian.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Dywedodd E wrth yr IMHA ei fod wedi gofyn am gymorth staff i brynu eitemau ond bod hyn heb ddigwydd. Roedd E yn teimlo bod y staff ddim yn gwrando arno a ddim yn deall yr effaith o beidio â gallu cael mynediad at ei arian.
Roedd gan E nam ar y lleferydd felly roedd yn cael anhawster yn cyfathrebu â staff. Roedd ei feddyginiaeth hefyd yn effeithio ar ei allu i gyfathrebu. Gydag E yn teimlo bod neb yn gwrando arno, byddai'n cyffroi wrth geisio codi'r mater gyda staff, gan wneud cyfathrebu yn anoddach fyth.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Gofynnodd E i’r IMHA fynegi ei gais i’r staff.
- Rhoddwyd gwybod i’r IMHA bod y staff wedi ceisio esbonio bod yna broses ar gyfer cleifion a gedwir heb Adran 17 i gael mynediad at arian, ond y byddai E fel arfer wedi cyffroi cymaint y byddai wedi methu â thalu sylw i’r wybodaeth.
- Bu’r IMHA yn cefnogi E mewn cyfarfod gyda staff i fynegi’r pryder. Esboniodd y staff y byddent yn gallu cymryd cerdyn a rhif PIN E i’r peiriant arian ar ei ran, y byddai 2 aelod o staff yn bresennol er mwyn sicrhau bod dim materion diogelwch, yna gallent brynu eitemau ar ei ran. Byddai derbynebau’n cael eu darparu o’r peiriant arian ac ar gyfer yr eitemau a brynwyd.
Canlyniadau:
Roedd E yn gallu gofyn yr holl gwestiynau roedd ganddo mewn perthynas â'r broses a dywedodd ei bod yn teimlo wedi'i galonogi gan y broses, ac fe gytunodd y gallai'r staff wneud hwn ar ei ran.