Astudiaethau Achos / IMHA Cleient F

IMHA Cleient F

Mae Cleient F yn destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO). Roedd F wedi gofyn am gynrychiolaeth gan yr IMHA mewn Gwrandawiad a oedd ar y gweill gyda Rheolwr yr Ysbyty. Pan i'r IMHA gwrdd â F, daeth i'r amlwg bod y prif bryder mewn perthynas â meddyginiaeth yn hytrach na pharhad y CTO. Esboniodd yr IMHA mai diben y gwrandawiad oedd adolygu a oedd y CTO am barhau ond y byddai Rheolwr yr Ysbyty weithiau'n gwneud argymhellion am faterion eraill, felly gellir codi hyn ar ei ran.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Roedd F wedi bod yn cael nifer o sgil effeithiau o ganlyniad i feddyginiaeth am nifer o fisoedd. Roedd F wedi codi'r mater hwn sawl tro gydag aelodau'r tîm gofal ond nid oedd yn teimlo bod y pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif o hyd. Roedd Clinigwr Cyfrifol F yn anfodlon adolygu'r feddyginiaeth, gan nodi ei fod yn teimlo ei bod o fudd i F.

Dywedodd F wrth yr IMHA ei bod ddim yn gwrthod meddyginiaeth, ond y byddai'n well ganddo gymryd meddyginiaeth amgen a allai achosi llai o sgil effeithiau.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Codwyd y mater ar ran F yn ystod Gwrandawiad Rheolwr yr Ysbyty.

Canlyniadau:

Argymhellodd Rheolwr yr Ysbyty y dylid peidio ag anwybyddu'r sgil effeithiau roedd F yn eu cael, ac y dylai'r tîm gofal ymchwilio i'r mater yn fwy trylwyr.

Dywedodd F wrth yr IMHA bod yn golygu llawer iddo fod Rheolwr yr Ysbyty wedi gwrando ar y pryderon am y sgil effeithiau ac ar yr effaith roedd y feddyginiaeth yn cael ar ansawdd ei fywyd.

O ganlyniad i'r gwrandawiad, mae'r CMHT wedi rhoi apwyntiad adolygu i F er mwyn ymchwilio i'r mater hwn yn fwy trylwyr.