Astudiaethau Achos / IMHA Cleient G
IMHA Cleient G
Pennwyd bod Cleient G â diffyg galluedd i benderfynu ar ei leoliad ar ôl ei ryddhau ac i gyfarwyddo IMHA. Roedd cyfarfod budd pennaf cael ei gynnal ble fyddai pobl eraill yn penderfynu beth fyddai orau i G a'r opsiwn lleiaf cyfyngedig.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Roedd G eisiau dychwelyd adref. Roedd Asesiad Galluedd wedi cael ei gwblhau a'r canlyniad oedd bod y claf â diffyg galluedd meddyliol i benderfynu ar ei leoliad ar ôl ei ryddhau.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Derbyniodd yr IMHA atgyfeiriad ar gyfer G a oedd yn nodi G y byddai G yn methu deall rôl yr eiriolwr.
- Dilynodd yr IMHA y prawf dau gam o alluedd. Nid oedd G yn gallu deall rôl yr IMHA, felly byddai’r IMHA yn darparu eiriolaeth heb gyfarwyddyd.
- Edrychodd yr IMHA ar gofnodion meddygol G. Trefnwyd cyfarfod budd pennaf.
- Ymwelodd yr IMHA â G ar 3 achlysur arall, gan ddilyn y prawf dau gam o alluedd bob tro.
- Newidiodd yr IMHA o ddarparu eiriolaeth heb gyfarwyddyd i eiriolaeth â chyfarwyddyd, ac roedd G eisiau cymorth yr IMHA.
- Derbyniodd yr IMHA wybodaeth o staff bod G yn ymddangos lawer gwell nag ydoedd pan iddo gael ei derbyn i gychwyn. Gofynnodd yr IMHA bod asesiad galluedd cyfredol yn cael ei gwblhau. Canlyniad yr asesiad oedd bod G y galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun yn ymwneud â’i leoliad ar ôl ei ryddhau.
Canlyniadau:
Dywedodd yr IMHA wrth staff ei bod wedi pennu bod gan G alluedd, felly bod G yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun yn ymwneud â'i ryddhad.
O ganlyniad, dewisodd G ddychwelyd adref er bod ei deulu ddim eisiau'r canlyniad hwn.