Astudiaethau Achos / IMHA Cleient H

IMHA Cleient H

Roedd Cleient H eisiau gadael yr ysbyty ond roedd yr atgyfeiriad yn nodi bod yna ddiffyg galluedd i gyfarwyddo IMHA.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Pennwyd bod gan H ddiffyg galluedd. Doedd dim deddfwriaeth yn ei le i adael H rhag gadael y ward.

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Mynychodd yr IMHA a dilyn y prawf dau gam o alluedd i bennu a allai H ddeall rôl yr IMHA.
  • Roedd H yn gallu deall, felly esboniodd yr IMHA y rôl, a’r cylch gorchwyl a gofyn i H a oedd am gael cefnogaeth eiriolwr. Yr ateb oedd ei bod am gael y gefnogaeth hon.
  • Mynegodd H ddymuniad i adael. Wrth dderbyn y cyfarwyddyd hwn, gofynnodd yr IMHA i staff pa ddeddfwriaeth oedd yn ei le gan fod H yn dymuno gadael.
  • Dywedwyd wrth yr IMHA bod H yn destun DOLs a gyflwynwyd (Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid). Roeddent yn aros am ymateb a allai gymryd tair wythnos.
  • Nododd yr IMHA bod H eisiau gadael a gofynnodd sut byddai staff yn ymdopi heb y ddeddfwriaeth hon.
  • Cysylltodd y staff â’r doctor ar alw ac fe gwblhawyd asesiad y ddeddf iechyd meddwl.

Canlyniadau:

Y canlyniad oedd bod dim modd cadw H. Gwnaethpwyd trefniadau am becyn gofal, gyda H yn cytuno i hwn, ac wythnos yn ddiweddarach rhyddhawyd H i fynd adref.

Cytunodd H yn anffurfiol i aros tan ei ryddhau.