Astudiaethau Achos / IMHA Cleient J
IMHA Cleient J
Roedd Cleient J yn anhapus gyda'r driniaeth roedd yn ei derbyn gan ei Glinigwr Cyfrifol.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Roedd J yn teimlo bod ei glinigwr cyfrifol a'r tîm amlddisgyblaethol a oedd yn rhan o'i ofal yn anwybyddu ei brif broblem iechyd meddwl, gyda J yn credu mai syndrom Asperger ydoedd.
Nododd J bod y tîm amlddisgyblaethol yn canolbwyntio lawer mwy ar ei broblemau llai difrifol. Roedd J yn teimlo wedi'i siomi gan ei Glinigwr Cyfrifol ac roedd o'r farn bod y berthynas wedi chwalu gan fod y Clinigwr Cyfrifol yn anwybyddu ei farn.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Bu’r IMHA gwrdd â J a thrafod nifer o opsiynau gydag ef a allai gefnogi a grymuso J i fynegi ei bryderon mewn modd adeiladol.
- Gofynnodd J i’r Eiriolwr ei gefnogi ar rownd y ward, er mwyn rhoi’r grym iddo leisio ei barn yn ymwneud â’i ofal cyfredol a’i driniaeth yn yr ysbyty.
- Cofnododd yr IMHA gofnodion y prif bwyntiau a godwyd yn y cyfarfod ar gyfer J.
- Ar ôl rownd y ward, nododd J ei fod yn dal i deimlo bod neb yn gwrando arno.
- Yna cyfarwyddodd J i’r IMHA ofyn i newid i Glinigwr Cyfrifol arall.
Canlyniadau:
Gweithredodd yr IMHA ar y cyfarwyddwyd hwn a alluogodd i J ofyn am ymgynghorydd arall mewn modd priodol a phroffesiynol.