Astudiaethau Achos / IMHA Cleient K
IMHA Cleient K
Roedd Cleient K eisiau dychwelyd adref i Loegr i fyw yn agosach at ei merch. Roedd K ar adran 3 y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:
Nododd K ei bod am adael yr ysbyty a dychwelyd i'w chartref yn Lloegr. Dywedodd K bod y doctor yn gwrthod gadael iddi adael yr ysbyty, er bod K yn teimlo'n ddigon iach i fynd adref.
Nododd K ei bod eisiau cefnogaeth i godi ei phryderon a'i bod eisiau i'r IMHA ei helpu i fynegi ei dymuniadau a dychwelyd i Loegr.
Eiriolaeth a gyflawnwyd:
- Esboniodd yr IMHA i K ei bod yn cael ei chadw dan adran 3 ar hyn o bryd ac esboniodd ei hawliau cyfreithiol iddi.
- Gofynnodd yr IMHA i nyrs staff ar y ward i esbonio i K pam roedd hi’n cael ei chadw yn yr ysbyty. Roedd K yn deall ei bod yn derbyn triniaeth am broblem iechyd meddwl, er nid oedd K yn credu bod unrhyw beth o’i le arni yn feddyliol.
- Esboniodd y nyrs staff i K bod cyfarfod wedi’i drefnu gyda’i doctor y diwrnod canlynol ac y byddai i le y byddai’n cael ei rhyddhau yn cael ei drafod.
- Gan na fod yr IMHA yn gallu mynychu’r cyfarfod, gofynnodd K i’r IMHA ei helpu i baratoi ar gyfer y cyfarfod ymlaen llaw.
- Treuliodd yr IMHA amser gyda K a pharatoi datganiad ysgrifenedig a gafodd ei roi i’r staff ar ran K. Darllenwyd y datganiad y diwrnod canlynol yn ystod y cyfarfod rhyddhau.
Canlyniadau:
Galluogodd ymrwymiad yr IMHA i K "gael dweud ei dweud" yn y cyfarfod rhyddhau. Er bod K wedi aros ar Adran 3, penderfynwyd yn y cyfarfod mai'r cynllun hir dymor fyddai i K symud i lety yn Lloegr, yn agosach at ei merch.
Er bod K yn siomedig gyda chanlyniad y cyfarfod, roedd y broses o baratoi yn fuddiol iawn iddi. Roedd hi'n gallu cyflwyno ei barn ar ffurf ysgrifenedig, yn hytrach na siarad ger bron y gweithwyr proffesiynol, a fyddai wedi bod yn hynod anodd iddi.