Astudiaethau Achos / IMCA Cleient A

IMCA Cleient A

Aeth Cleient A i'r ysbyty ar ôl cwympo. Cyfarwyddyd yr IMCA i weithredu mewn perthynas â phenderfyniad Symudiad Llety Hir Dymor a rhyddhad A o'r ysbyty. Roedd A yn berchen ar ei dŷ, fodd bynnag roedd achos llys ar y gweill ac roedd ei dŷ ar fin cael ei ddymchwel gan ei fod mewn cyflwr gwael iawn. Roedd angen penderfyniad budd pennaf.

Rhwystrau a wynebir wrth gael eich clywed:

Roedd anghytuno clir rhwng y Bwrdd Iechyd a'r awdurdod lleol mewn perthynas â galluedd A o ran llety. Gofynnodd yr IMCA i staff y ward os oedd gan A awdurdodaeth DOLs yn ei le, ond dywedwyd na fod cais wedi cael ei wneud am hyn gan fod y ward yn teimlo bod gan A alluedd.

Bu'r IMCA gwrdd ag A, a nododd bod ei dŷ eisoes wedi cael ei ddymchwel. A'i fod yn cael ei atal rhag gadael y ward ac yn teimlo fel "carcharor".

image

Eiriolaeth a gyflawnwyd:

  • Mynychodd yr IMCA gyfarfod budd pennaf ar gyfer A. Esboniwyd yma fod cartref A heb gael ei ddymchwel eto ond bod y gweithiwr cymdeithasol yn teimlo bod angen cefnogaeth ar A mewn fflat a reolir gan warden. Nid oedd angen iddo aros yn yr ysbyty bellach a dylid trefnu lleoliad dros dro cyn bod A yn symud i mewn i fflat newydd. Esboniodd y gweithiwr cymdeithasol bod yna leoliadau dros dro ar gael mewn cartrefi preswyl.
  • Gyda’r wybodaeth yma, esboniodd yr IMCA bod angen cyfarfod gydag A i gadarnhau eu dymuniadau a’i safbwyntiau.
  • Yn y cyfarfod budd pennaf, gofynnodd yr IMCA pan nad oedd cais wedi cael ei wneud am DOLs os oedd A yn cael ei atal rhag gadael y ward. Dywedodd y swyddog cyswllt rhyddhau ei bod hi wedi siarad â’r corff goruchwylio am y mater hwn ac wedi cael ei chynghori bod dim angen cais am DOLs ar gyfer A.
  • Cynigodd yr IMCA rhai opsiynau i A. Roedd yn hapus gyda’r awgrym o fyw mewn lleoliad preswyl dros dro. Fodd bynnag, esboniodd A y byddai’n hoffi gallu cael mynediad at y gymuned a bod dim hawl ganddo i adael yr ysbyty.

Canlyniadau:

Cynrychiolodd yr IMCA ddymuniadau a safbwyntiau A, a chodi pryderon am ei ataliad de facto hefyd. Aeth Aseswr Budd Pennaf i weld P gan argymell i'r corff goruchwylio y dylid rhoi awdurdodaeth yn ei le.

Bu'r IMCA barhau i weithredu fel amddiffyniad ar gyfer A gan sicrhau ei bod nid yn unig yn cael cynrychiolaeth lawn, ond bod Cod Ymarfer 2005 MCA hefyd yn cael ei dilyn yn gywir.