Achos Coronavirus (COVID-19) – Diweddariad gwasanaeth eiriolaeth Mawrth 2020
Rydym yn dechrau amser digynsail yng nghanol yr achos hwn o Coronavirus (COVID-19), ac o ganlyniad roeddem am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein darpariaeth gwasanaeth Eiriolaeth.
Hoffem eich sicrhau y bydd ein holl ddarpariaeth IMHA, IMCA ac eiriolaeth Gymunedol yn parhau i bob claf. Fodd bynnag, wrth i’r dyddiau barhau, mae wardiau’n cau’n gyflym i ymwelwyr er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu’r firws. Yn yr achos hwn, bydd eiriolaeth yn digwydd trwy sgyrsiau ffôn lle bynnag y bo modd.
Bydd ein safleoedd swyddfa yng Nghaerdydd ac Abertawe yn cau o ddydd Llun 23 Mawrth a bydd ein holl staff yn gweithio gartref. Mae gennym dechnoleg ar waith sy’n caniatáu inni weithredu’n effeithlon felly ymatebir i alwadau ffôn a negeseuon e-bost fel arfer.
Byddwch yn amyneddgar gyda ni wrth i ni addasu i ffordd newydd o weithio i’n tîm cyfan. Byddwn yn ymdrechu i fod mor ymatebol a chefnogol ag y gallwn.

Newyddion Diweddaraf
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn ehangu Eiriolaeth Arbenigol Cymorth Adfocatiaeth Cymru i Bobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth.
Mae Rhaglen Defnyddwyr Gwasanaeth ASC yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
Dilynwch Ni
Cysylltwch â Ni
Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Prif Swyddfa:
Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran
Llaneirwg, Caerdydd
CF3 0LT
Singleton House, Charter Court, Phoenix Way
Parc Anturiaeth Abertawe, Abertawe
SA7 9DD
Ffôn: 029 2054 0444
Ffacs: 029 2073 5620
E-bost: info@ascymru.org.uk